Jump to content
Sioe teithiol cymorth i gyflogwyr
Digwyddiad

Sioe teithiol cymorth i gyflogwyr

Dyddiad
17 Medi 2024, 9.30am i 3pm
Lleoliad
Wrecsam
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae mynychu’r sesiwn hon yn cyfrif tuag at eich datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) os ydych wedi cofrestru â ni.

Bydd diodydd a chinio ar gael.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer cyflogwyr gweithwyr cofrestredig gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys Unigolion Cyfrifol a rheolwyr cofrestredig.

Cynnwys y sesiwn

Dewch i glywed am y gwasanaethau, cymorth ac adnoddau sydd ar gael i chi, gan gynnwys

  • y tîm cymorth i gyflogwyr newydd
  • ein ‘cynnig i gyflogwyr’
  • sesiynau arweinyddiaeth dosturiol, gwrth-hiliaeth mewn gofal cymdeithasol a mwy.

Bydd yna hefyd sesiynau am:

  • arweinyddiaeth dosturiol
  • gwrth-hiliaeth mewn gofal cymdeithasol
  • hyfforddi arloesi ac offer hyfforddi
  • modiwlau dysgu digidol ar gyfer y llwybr asesiad gan gyflogwr.