Digwyddiad
Sesiynau galw heibio ar gyfer cydgysylltwyr gweithgareddau mewn cartrefi gofal
Dyddiad:
30 Mawrth 2022 - 31 Awst 2022
, 10am i 11.30am
Lleoliad:
Ar-lein
Sefydliad:
Gofal Cymdeithasol Cymru ac Age Cymru
Rydyn ni'n gweithio gydag Age Cymru i gynnal sesiynau galw heibio ar gyfer cydgysylltwyr gweithgareddau ac aelodau staff eraill sydd â diddordeb mewn darparu gweithgareddau i'w preswylwyr. Bydd y sesiynau hyn yn gyfle i rannu syniadau, dathlu'r hyn sy'n gweithio'n dda a dod o hyd i gefnogaeth gan gyfoedion.
Bydd y sesiwn galw heibio ar-lein nesaf yn cael ei chynnal am 10-11.30am ar ddydd Mercher, 30 Mawrth ac yna ar bob yn ail ddydd Mercher canlynol.