Caiff y sesiwn yma ei cynnal gan Martin King-Sheard o Chwarae Cymru.
Bydd y sesiwn hon yn archwilio pwysigrwydd risg fel rhan annatod o chwarae pob plentyn a sut i gydbwyso risg gyda’r manteision i lesiant corfforol ac emosiynol plant.
Bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i glywed am ac ystyried:
- pam mae plant yn cymryd risgiau yn eu chwarae
- sut y gall oedolion gefnogi cymryd risg wrth chwarae
- cyngor ac arweiniad ar gwblhau asesiadau risg-budd.