Jump to content
Sesiynau arweiniad: cymwysterau Fframwaith sefydlu Cymru gyfan (AWIF) a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru

Yn anffodus oherwydd gollyngiad dŵr dydy ein llinellau ffôn ddim yn gweithio. Rydyn ni’n gweithio'n galed i ddatrys y mater ac yn ymddiheuro am unrhyw broblemau a achosir.

Digwyddiad

Sesiynau arweiniad: cymwysterau Fframwaith sefydlu Cymru gyfan (AWIF) a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru

Dyddiad
17 Ionawr 2024, 10am i 11.30am
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae'r sesiwn yma ar gyfer arweinwyr, rheolwyr, a chyflogwyr sy'n gweithio mewn blynyddoedd cynnar a gofal plant sydd am ddysgu mwy am Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) a chymwysterau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (lefel 2 a lefel 3).

Yn y sesiwn yma, byddwn yn:

  • archwilio fframwaith cymhwyster y blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • trafod sut a pham y daeth y cymwysterau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant i fodolaeth
  • rhannu gwybodaeth ac adnoddau yn ymwneud â Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant
  • edrych ar gynnwys gymwysterau lefel 2 a lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, a sut caiff eu cyflwyno a'u hasesu.

Dyddiadau

2024

  • 17 Ionawr, 10am i 11.30am
  • 8 Chwefror, 10am i 11.30am
  • 6 Mawrth, 10am i 11.30am