Jump to content
Rheoleiddio mewn gwaith cymdeithasol fodern
Digwyddiad

Rheoleiddio mewn gwaith cymdeithasol fodern

Dyddiad
19 Mawrth 2026 i 19 Chwefror 2026, 1.30pm i 2.30pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Social Work England

Ymunwch ag arweinwyr pedwar rheoleiddiwr gwaith cymdeithasol y DU am drafodaeth am realiti ymarfer gwaith cymdeithasol heddiw. Byddan nhw’n edrych ar y cymhlethdod, y pwysau a'r heriau sy'n wynebu gweithwyr cymdeithasol, ac yn archwilio sut y gall rheoleiddio gefnogi'r proffesiwn.

Trwy drafodaeth banel, bydd pob rheoleiddiwr yn myfyrio ar eu dull gweithredu, a'r gwahaniaethau rhwng y pedair gwlad. Byddan nhw’n tynnu sylw at sut mae eu cyfrifoldebau rheoleiddio yn helpu i ddatblygu ymarferwyr hyderus, dewr a chefnogol sy'n gallu darparu gwaith cymdeithasol o ansawdd uchel mewn amgylcheddau heriol.

Bydd y sesiwn yn ymdrin â:

  • heriau a gwobrau ymarfer gwaith cymdeithasol ar draws y pedair gwlad
  • sut mae rheoleiddwyr yn hyrwyddo ymarfer diogel, myfyriol a hyderus
  • sut y gall safonau a chanllawiau rymuso gweithwyr cymdeithasol
  • ymrwymiadau a rennir i ddiogelu'r cyhoedd, lles y gweithlu, a gwydnwch proffesiynol hirdymor.

Siaradwyr

  • Colum Conway – Prif Weithredwr, Social Work England
  • Sarah McCarty – Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Tracy Reid - Prif Weithredwr - Northern Ireland Social Care Council
  • Maree Allison – Prif Weithredwr - Scottish Social Services Council