Gweithdai rheolwyr a chyflogwyr i gefnogi gweithredu'r Fframwaith Sefydlu
Rydym wedi trefnu gweithdai misol i gefnogi gweithredu Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Rheolwyr Gofal Cymdeithasol.
Mae'r gweithdai hyn ar gyfer rheolwyr, cyflogwyr a'r rhai sy'n gyfrifol am gefnogi rheolwyr newydd yn y swydd.
Fe fydd y gweithdy yn esbonio pam fod y fframwaith sefydlu wedi’i ddatblygu, beth mae’n cynnwys, pwy ddylai ei gwblhau a pham.
Fe fydd cyfle i archwilio cynnwys y fframwaith sefydlu yn bellach mewn ystafelloedd rhyngweithiol llai gyda rheolwyr a chyflogwyr.
Sylwch y bydd gweithdai 1, 2 a 3 yn ymdrin â'r un pwnc, nid oes angen i chi fynychu mwy nag un.
Gallwch gofrestru ar gyfer y gweithdai gan ddefnyddio'r dolenni isod:
- Dydd Mercher, 20 Ionawr, 10am i 12 pm
- Dydd Iau, 11 Chwefror, 1pm i 3pm
- Dydd Mawrth, 9 Mawrth, 10am i 12pm.
Byddwn yn cynnal gweithdai pellach yn nes ymlaen yn y flwyddyn newydd ac yn eu seilio ar adborth a gafwyd o weithdai 1, 2 a 3.
Bydd dolenni i gofrestru ar gyfer y gweithdai hyn ar gael yn fuan.
- Dydd Mawrth, 13 Ebrill, 2pm i 4pm
- Dydd Llun, 10 Mai, 10am i 12pm
- Dydd Mercher, 16 Mehefin, 2pm i 4pm
- Dydd Iau, 15 Gorffennaf, 10am I 12pm
- Dydd Mercher, 8 Medi, 2pm i 4pm
- Dydd Llun, 4 Hydref, 10am i 12pm
- Dydd Llun, 8 Tachwedd, 2pm i 4pm
- Dydd Iau, 12 Rhagfyr, 10am i 12pm.
Ewch i adnoddau fframwaith sefydlu rheolwyr gofal cymdeithasol i gael mwy o wybodaeth.