(*Noder uchafswm o ddau berson o bob canolfan fesul gweithdy)
Mae angen cymhelliant er mwyn gwireddu neu gyflawni canlyniadau. Gall Gweithwyr Gofal Cymdeithasol chwarae rhan allweddol i hwyluso cymhelliant yr unigolion y maent yn eu cefnogi i gyflawni canlyniadau sy'n bwysig iddynt.
Bydd y gweithdy hwn yn archwilio’r ystod o offer, fframweithiau, a ffyrdd o gyfathrebu’n effeithiol i gefnogi’r gwaith hwn a thrafod cymhwysiad ymarferol mewn sefyllfaoedd gwaith.
Ar gyfer pwy?
Mae'r sesiwn wedi'i thargedu at ddarparwyr dysgu (darlithwyr, tiwtoriaid, aseswyr a dilyswyr y cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol), cyflogwyr o fewn gofal cymdeithasol a'r rhai o fewn awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldebau am gefnogi dysgu a datblygiad y sector.
Mae'r sesiwn o fudd i'r rhai sy'n cefnogi cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol L2 a L3 ond gall fod o fudd i eraill hefyd.
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar Zoom. Anfonir y ddolen atoch y diwrnod cyn y digwyddiad os ydych wedi cofrestru.