Caiff y gweithdy datblygiad proffesiynol yma ei rhedeg gan Jillian Davies a Nicola Evans, o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Bydd y gweithdy yn ganolbwyntio ar y ddwy uned newydd:
- 277: Cyfrannu at ofal a chymorth unigolion sy'n defnyddio gwasanaeth dydd.
- 377: Hyrwyddo gofal a chymorth i unigolion sy'n defnyddio gwasanaeth dydd.
Yn ystod y sesiwn, byddwn yn:
- trafod y dystiolaeth sydd ei hangen i gwblhau'r unedau
- edrych ar y gwahanol ddamcaniaethau, a sut mae rhain yn cefnogi'r amcanion dysgu a'r meini prawf
- edrych ar y gwahaniaethau rhwng lefel 2 a lefel 3 a sut y gellir cyflawni hyn drwy ymarfer.