Jump to content
Gweithdy ar gyfer cyflogwyr gofal cymdeithasol: cefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau yn eich gweithle

Yn anffodus oherwydd gollyngiad dŵr dydy ein llinellau ffôn ddim yn gweithio. Rydyn ni’n gweithio'n galed i ddatrys y mater ac yn ymddiheuro am unrhyw broblemau a achosir.

Digwyddiad

Gweithdy ar gyfer cyflogwyr gofal cymdeithasol: cefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau yn eich gweithle

Dyddiad
6 Rhagfyr 2023, 10am i 12.30pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r gweithdy yma ar gyfer rheolwyr a chyflogwyr sefydliadau gofal cymdeithasol sy’n cefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau.

Yn ystod y gweithdy fe fyddwn yn:

  • edrych ar siwrnau gweithwyr o ddechrau gweithio, cwblhau eu fframwaith sefydlu cyn mynd ymlaen i gwblhau eu cymwysterau Craidd ac Ymarfer
  • edrych ar y cymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol lefelau 2 i 5, eu cynnwys, strwythur a sut maent yn cael eu hasesu
  • esbonio beth sydd angen gan reolwyr a chyflogwyr i gefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau
  • gofyn i chi am esiamplau o ymarfer da wrth gefnogi gweithwyr i ennill eu cymwysterau yn mynd hyd yn hyn
  • trafod y cymwysterau yn bellach gyda rheolwyr eraill mewn grwpiau rhyngweithiol llai
  • cyflwyno’r Canllaw Ymarfer Da ar gyfer Dysgwyr, Cyflogwyr a Rheolwyr.

Cofrestru ar Eventbrite

Byddwn yn cynnal y gweithdy hwn ar sawl dyddiad. Mae ond angen i chi fynychu unwaith.