Jump to content
Edrych ar ôl eich hun yn y gwaith: pwysigrwydd perthnasau a chysylltu â’ch cydweithwyr
Digwyddiad

Edrych ar ôl eich hun yn y gwaith: pwysigrwydd perthnasau a chysylltu â’ch cydweithwyr

Dyddiad
23 Hydref 2024, 6.30pm i 7.30pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Yn ôl ymchwil, ansawdd ein perthnasau, gan gynnwys yn y gwaith, yw’r rhagfynegydd fwyaf ar gyfer ein llesiant cyffredinol. Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar bwysigrwydd edrych ar ôl ein hun yn y gwaith a’r effaith mae cysylltu â phobl a chefnogi ein gilydd yn cael arnyn ni.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer ymarferwyr a myfyrwyr sy’n gweithio neu astudio yn y sector gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn:

  • dysgu am y pethau sy’n cael effaith ar ein llesiant yn y gwaith
  • meddwl am sut gallwn ni edrych ar ôl ein llesiant a llesiant pobl eraill yn y gwaith
  • clywed am beth y gallech chi wneud pan maen pethau’n teimlo’n anodd
  • cysylltu â phobl o’r un anian a chi
  • darganfod gwybodaeth ac adnoddau i gefnogi’ch llesiant
  • dysgu am ein cymuned ymarfer llesiant a sut i ymuno.