Dosbarth meistr ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar
Ar gyfer pwy yw'r sesiynau hyn?
Mae'r sesiynau hyn wedi'u hanelu at unrhyw un sy'n gyfrifol am reoli staff neu dimau mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Mae'r sesiwn nesaf ar 20 Ebrill 2021 ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr sydd am gael gwell dealltwriaeth o'r gefnogaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael o amgylch chwarae a gwaith chwarae.
Pryd bydd y sesiynau'n rhedeg?
Bydd y sesiynau un-awr hyn yn cael eu cynnal dros Zoom ar:
- 20 Ebrill 2021
- 26 Mai 2021
- 16 Mehefin 2021
- 27 Hydref 2021
- 23 Tachwedd 2021
- 15 Rhagfyr 2021
- 12 Ionawr 2022
- 9 Chwefror 2022.
Beth fyddan nhw'n ymdrin â?
Bydd y sesiwn ar 20 Ebrill 2021 yn ystyried beth yw chwarae, sut y gallwn ddechrau meddwl am a chynllunio amgylcheddau chwarae o safon, a phwysigrwydd risg a her o fewn chwarae plant.
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gyda mwy o wybodaeth am bob dosbarth meistr yn ei bryd.
Cysylltwch â ni
Cofrestrwch ar gyfer y dosbarth meistr ar 20 Ebrill 2021. I ddysgu mwy, e-bostiwch Stephanie Ackerley ar stephanie.ackerley@gofalcymdeithasol.cymru.