Jump to content
Digwyddiadau ymgysylltu â chyflogwyr y blynyddoedd cynnar: AWIF
Share
Digwyddiad

Digwyddiadau ymgysylltu â chyflogwyr y blynyddoedd cynnar: AWIF

Dyddiad
13 Hydref 2022 - 7 Mawrth 2023, 10yb - 11yb
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni'n cynnig cyfle i gyflogwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant ddysgu mwy am sut y gall Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer y blynyddoedd cynnar a gofal plant (AWIF) gefnogi recriwtio a sefydlu.

Bydd cyfleoedd i drafod a gofyn cwestiynau am yr AWIF a'n hadnoddau recriwtio a sefydlu sydd wedi'u diweddaru. Byddwn ni'n defnyddio chwarae rôl i ddangos gwahanol sgyrsiau posibl am yr AWIF rhwng rheolwr a gweithiwr.

Dim ond un o'r dyddiadau yma sydd angen i chi ei fynychu:

2022

  • 13 Hydref, 10am i 11am
  • 15 Tachwedd, 10am i 11am

2023

  • 7 Chwefror, 10am i 11am
  • 7 Mawrth, 10am i 11am