Jump to content
Cyflwyniad i'r Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer y Gweithlu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Digwyddiad

Cyflwyniad i'r Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer y Gweithlu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

Dyddiad
24 Hydref 2024, 10am i 12.30pm
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r gweithdy hwn yn gyflwyniad i'r adnoddau dysgu sydd ar gael er mwyn cefnogi’r Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer y Gweithlu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r gweithdy hwn ar gyfer cyflogwyr, rheolwyr sy’n datblygu’r gweithlu a swyddogion o fewn awdurdodau lleol, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau corfforaethol, amlddisgyblaethol neu drydydd sector sy’n gyfrifol dros y Gweithlu Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth.

Cynnwys y sesiwn

Mae’r sesiwn hon yn gyfle gwych i:

  • ddeall y Fframwaith Cymhwysedd
  • ddarganfod yr adnoddau dysgu sydd ar gael
  • gael arweiniad ar sut i gefnogi gweithwyr i adnabod a datblygu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i'w rôl
  • godi ymwybyddiaeth o sut gall ymarferion sy’n seiliedig ar gryfderau wneud gwahaniaeth i bobl o’r dechrau.