Mae Gofalwn Cymru yn cynnal rhaglen am ddim ‘cyflwyniad i ofal plant’ ar gyfer pobl sy’n byw yn Nghymru i alluogi nhw i ennill gwybodaeth a sgiliau yn y sector gofal plant.
Bydd y rhaglen hyfforddi deuddydd yn cael ei chynnal ar-lein a bydd llyfr gwaith hefyd yn cael ei gwblhau.
Bydd yr hyfforddiant yn cwmpasu'r hanfodion sydd eu hangen i ddechrau gweithio ym maes gofal plant, gan gynnwys:
- diogelu Grŵp A
- rolau a chyfrifoldebau gweithwyr gofal plant
- cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad
- cyfathrebu gan gynnwys yr iaith Gymraeg
- iechyd a diogelwch gan gynnwys rheoli heintiau
- dull sy'n canolbwyntio ar ar y plentyn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy neu os ydych yn ystyried gyrfa mewn gofal plant, ymunwch â'n rhaglen a dechreuwch eich taith gofal plant heddiw!
Y dyddiadau ar gyfer yr hyfforddiant yw: