Jump to content
Asesu gweithwyr nos, staff wrth gefn, a staff rhan amser mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
Digwyddiad

Asesu gweithwyr nos, staff wrth gefn, a staff rhan amser mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol

Dyddiad
2 Mai 2023 - 3 Mai 2023, 10am - 1:30pm
Lleoliad
Caerdydd a Llanelwy
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a City & Guilds

Bydd y gweithdy hon yn canolbwyntio ar arfer gorau wrth asesu gweithwyr nos, staff wrth gefn a staff rhan amser mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd yn sesiwn ryngweithiol ar gyfer darparwyr dysgu a chyflogwyr i:

  • nodi problemau ac atebion wrth asesu ar gyfer gweithwyr nos, gweithwyr wrth gefn, a staff rhan amser mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
  • dod o hyd i ffyrdd y gellir defnyddio'r unedau presennol i fodloni gofynion rôl y maes hwn o'r gweithlu
  • rhannu arfer da i wneud y defnydd gorau o ddulliau asesu a bodloni'r gofynion cymwysterau ar gyfer y maes hwn o'r gweithlu.

Dyddiadau

  • Dydd Mawth, 2 Mai, 10am i 1.30pm, Coleg Caerdydd a'r Fro, Heol Dumballs, Caerdydd CF10 5FE
  • Dydd Mercher 3 Mai, 10am i 1.30pm, Canolfan OpTIC, Ffordd William Morgan, Llanelwy, Sir Ddinbych LL17 0JD

Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael ar gyfer y sesiynau, felly dylech:

  • gofrestru cyn mynychu
  • ond cofrestru os ydych chi'n bwriadu mynychu.