Jump to content
personau-cofrestredig-ag-amodau-dros-dro

Gall Gofal Cymdeithasol Cymru ofyn i banel osod amodau dros dro ar ymarfer person cofrestredig. Ni fyddwn yn gwneud hyn oni bai ein bod yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i ddiogelu’r cyhoedd, fel arall er budd y cyhoedd neu er budd y person cofrestredig. Gall person cofrestredig fynychu gwrandawiad i siarad â phanel sy'n ystyried a ddylid gosod gorchymyn cofrestru amodol dros dro arno.

Gelwir yr amodau dros dro hyn yn orchmynion cofrestru amodol dros dro.

Gall person cofrestredig barhau i weithio mewn rôl y mae angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar ei chyfer.

Ni all Gofal Cymdeithasol Cymru osod gorchmynion cofrestru amodol dros dro am fwy na 18 mis. Fodd bynnag, gall Gofal Cymdeithasol Cymru wneud cais i’r Tribiwnlys Safonau Gofal am estyniad i’r gorchymyn y tu hwnt i 18 mis lle bo angen. Rhaid adolygu gorchmynion cofrestru amodol dros dro yn rheolaidd, a gwahodd y person cofrestredig i gymryd rhan mewn unrhyw wrandawiad adolygu.