Jump to content
Rowena Thomas
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Gorchymyn dileu
Lleoliad
Roedd hwn yn wrandawiad o bell drwy Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Pobl Group
Math o wrandawiad
Panel addasrwydd i ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod pryderon diogelu difrifol wedi’u profi yn erbyn Rowena Thomas, gweithiwr gofal cartref cofrestredig.

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Ms Thomas i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru.

Bydd enw Ms Thomas yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr a’i roi ar y Rhestr o Bobl sy’n cael eu Dileu.

Mae gan Ms Thomas yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru
Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru



Crynodeb o honiadau

Tra'n cael ei chyflogi gan Pobl Care Grop, fel gweithiwr gofal cartref, cododd ymddygiad Ms Thomas bryderon diogelu difrifol.