Rydyn ni'n defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau ar ein gwefan

Gweld ein hysbysiad preifatrwydd
Jump to content
Vicki Lesley Corcoran
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Diddymu o’r gofrestr (yn unol â  phroses Diddymu trwy Gytundeb)
Lleoliad
N/A
Cyflogwr
Gynt Natures's Hand Care and Support
Math o wrandawiad
Ni gynhelir panel gan Bwyllgor -  proses Diddymu trwy Gytundeb

Crynodeb o'r penderfyniad

Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod person cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.

Medrai person cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.

Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan y person cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.


Cyflwyniad

1. Cofrestrodd Mrs Vicki Corcoran gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ("GCC") fel Gweithiwr Gofal Cartref ar 11 Mawrth 2020.

2. Cyflogwyd Mrs Corcoran yn y rôl honno fel gweithiwr cymorth gan Natures Hand Care and Support Limited ("Natures Hand") mewn cartref byw â chymorth ("y Cartref”)

Cyfeiriad at GCC

3. Ar 14 Mai 2020, derbyniodd GCC gyfeiriad gan Natures Hand. Cadarnhaodd hyn fod Mrs Corcoran wedi cael ei diswyddo o'i rôl ar 11 Mai 2020 oherwydd honiad o ymosodiad corfforol ar Berson A yn ystod digwyddiad ar 1 Mai 2020. Mae Person A yn unigolyn â chymorth a oedd yn breswylydd yn y Cartref. Mae Person A yn ddi-eiriau ac ni all gyfleu llawer o deimladau neu emosiynau.

4. Roedd y digwyddiad hwn yn dilyn honiad blaenorol o gam-drin corfforol a wnaed yn erbyn Mrs Corcoran ar ddefnyddiwr gwasanaeth gwahanol yn y Cartref, lle cyfaddefodd Mrs Corcoran i symud coesau defnyddiwr gwasanaeth o fwrdd.

Yr honiadau yn erbyn Mrs Corcoran

5. Mewn perthynas â'r digwyddiad yn ymwneud â Pherson A, digwyddodd hyn ar fore 1 Mai 2020 yn y Cartref. Roedd Cydweithiwr B, cydweithiwr i Mrs Corcoran a oedd yn bresennol ar y pryd, wedi gweld y digwyddiad. Am tua 11:30am, pan nad oedd yn ymwybodol bod Cydweithiwr B yn bresennol, fe wnaeth Mrs Corcoran:

a. siarad yn ymosodol a gweiddi ar Berson A; a

b. slapio Person A ar un achlysur neu fwy.

6. Aeth Cydweithiwr B ymlaen i herio Mrs Corcoran am yr hyn yr oedd wedi'i weld a gofynnodd Mrs Corcoran iddi beidio â dweud dim am y digwyddiad.

7. Fodd bynnag, adroddodd Cydweithiwr B beth oedd wedi digwydd a gofynnwyd i Mrs Corcoran adael y Cartref. Cafodd Mrs Corcoran ei hatal ac fe ddechreuodd Natures Hand ymchwiliad.

8. Mae Mrs Corcoran bellach wedi gwneud cais i gael ei diddymu o’r gofrestr drwy gytundeb. Paratowyd y Datganiad Ffeithiau y cytunwyd arnynt at ddibenion y cais hwnnw.

Casgliad

9. Mae Mrs Corcoran yn cadarnhau ei chytundeb i'r ffeithiau a nodir yn y datganiad hwn.

10. Mae Mrs Corcoran yn cadarnhau nad yw’n bwriadu gweithio yn y dyfodol mewn unrhyw swydd a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chofrestru gan GCC a'i bod yn dymuno i'w henw gael ei dynnu oddi ar gofrestr GCC drwy gytundeb o dan Reol 9 o Reolau Ymchwilio 2020.

11. Os, yn groes i'w bwriad a fynegwyd, y dylai Mrs Corcoran wneud cais i gofrestru gyda GCC yn y dyfodol, mae Mrs Corcoran yn cydnabod y gallai GCC roi sylw i gynnwys y datganiad hwn wrth ystyried cais o'r fath.