Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod person cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.
Medrai person cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.
Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan y person cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.
Cyflwyniad
- Cofrestrodd Ms Sarah Elizabeth Thomas (‘Ms Thomas’) gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymwys ar 5 Medi 2007.
- Cyflogwyd Ms Thomas gan Platfform fel Gweithiwr Achos o 15 Ebrill 2019. Elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol yw Platfform sy’n gweithio gyda phobl sy’n profi heriau gyda’u hiechyd meddwl. Diswyddwyd Ms Thomas o’r gyflogaeth honno yn dilyn gwrandawiad disgyblu ar 29 Gorffennaf 2020. Yn y gwrandawiad disgyblu hwnnw, ystyriwyd honiadau a oedd yn cyfateb yn fras i honiadau 1 i 4 isod.
- Yn dilyn hynny, cyflogwyd Ms Thomas gan Cardiff Women’s Aid (‘CWA’). Cafodd ei gwahardd gan CWA ar 26 Mawrth 2021, tra’n disgwyl ymchwiliad i honiadau o gamymddwyn. Ymddiswyddodd Ms Thomas a daeth ei ymddiswyddiad i rym ar 1 Ebrill 2021. Fodd bynnag, ysgrifennodd CWA at Ms Thomas ar 1 Ebrill 2021 yn ei hysbysu, pe na bai wedi ymddiswyddo, y byddai canlyniad yr ymchwiliad wedi arwain at derfynu ei chontract. Roedd yr ymchwiliad wedi ystyried honiad a oedd yn cyfateb i honiadau 5 a 6 isod.
Honiadau
Eich bod chi, tra’ch bod wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymwys
Tra’ch bod wedi’ch cyflogi gan Platfform:
(1) Wedi cael mynediad at y system CCTV heb eich awdurdodi ymlaen llaw a recordio darn o ffilm ar eich ffôn symudol personol.
- Yn ei gwrandawiad disgyblu ar 29 Gorffennaf 2020, cyfaddefodd Ms Thomas ei bod wedi gwylio’r darn o CCTV o breswylydd a oedd wedi disgyn o gadair a recordio’r darn hwnnw ar ei ffôn symudol personol. Dywedodd dau aelod o staff eraill bod Ms Thomas yn ‘chwerthin yn wirion’ ar y darn o ffilm. Taerodd Ms Thomas ei bod ond yn gwenu ar y darn o ffilm a’i bod eisiau dangos y darn i aelod arall o staff i brofi pwy a oedd wedi malu a gwaredu’r gadair. Derbyniodd Ms Thomas nad oedd rheswm y gellid yn ddilys ei amddiffyn i recordio’r darn o ffilm ar ei ffôn symudol personol. Penderfynodd y panel disgyblu fod gweithredoedd Ms Thomas yn amhriodol. Hefyd, hyd yn oed pe na bai wedi darllen polisïau a gweithdrefnau Platfform, roedd wedi gweithio’n flaenorol mewn nifer o feysydd cysylltiedig, gan gynnwys gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol, gan gynnwys rhyngweithio â phobl fregus lle’r oedd safonau ymddygiad o ran cyfrinachedd ac ymddygiad yn debyg i rai Platfform.
(2) Rhoi’ch rhif ffôn personol i’r Heddlu iddynt gysylltu â chi ynghylch pryderon a oedd yn ymwneud â chleient Platfform.
- Ar 15 Tachwedd 2019, gofynnwyd i Ms Thomas ac aelod o staff arall fynd i brif swyddfa’r Barri i wrando ar negeseuon peiriant ateb a oedd wedi’u derbyn gan gleient Platfform a oedd o naws ymosodol. Cawsant gyfarwyddyd i ffonio 101 i roi gwybod am y galwadau i’r heddlu. Yn sgil hyd yr amser aros, penderfynodd Ms Thomas fynd i orsaf heddlu’r Barri i roi gwybod am y negeseuon. Pan aeth yno, rhoddodd ei rhif ffôn symudol personol i’r heddlu. Yn ei gwrandawiad disgyblu, derbyniodd y panel ei hesboniad ei bod wedi rhannu ei rhif ffôn symudol personol drwy ddamwain yn y lle cyntaf. Dywedodd Ms Thomas ei bod wedi hynny wed dychwelyd i ddesg y dderbynfa yng ngorsaf yr heddlu yn ystod yr un ymweliad ac wedi gofyn iddynt dynnu ei rhif personol oddi ar y system. Ni dderbyniodd y panel yr esboniad hwn. Cyfaddefodd Ms Thomas ei bod wedi, ar 16 Tachwedd 2019, derbyn neges gan yr Heddlu ar ei ffôn symudol personol ond nad oedd hi wedi ateb na ffonio yn ôl a’i bod wedi dileu’r neges ar unwaith. Cadarnhaodd Ms Thomas hefyd yn ystod y gwrandawiad ei bod wedi derbyn galwadau gan yr heddlu ar ei ffôn gwaith ac y gallai fod wedi gofyn iddynt gael gwared ar ei rhif ffôn symudol personol. Daeth y panel i’r casgliad nad oedd Ms Thomas wedi cymryd pob cam angenrheidiol a rhesymol a bod hyn yn mynd yn groes i Bolisïau Defnydd TGCh Derbyniol a Diogelu Data, Preifatrwydd a Chyfrinachedd Platfform.
(3) Methu cadw ffiniau proffesiynol priodol gyda Chleient A.
- Yn ystod ymchwiliad Platfform, daeth honiadau i’r amlwg bod Ms Thomas wedi methu cadw ffin broffesiynol briodol gyda Chleient A. Honnwyd bod:
- Ms Thomas wedi trefnu dêt ar asiantaeth baru ar-lein, a siaradodd am hyn gyda Chleient A yn ystod cyfarfod. Honnodd Cleient A fod Ms Thomas, drannoeth, wedi gadael dwy neges llais i ddweud wrth Gleient A am ei dêt.
- Ar 11 Tachwedd 2019, ffoniodd Ms Thomas Gleient A am oddeutu 15 munud yn gofyn i Gleient A chwarae gêm. Dywedodd Cleient A mai’r gêm yr oedd Ms Thomas wedi’i awgrymu oedd y dylai Cleient A ofyn cwestiynau i Ms Thomas. Yna, roedd Ms Thomas eisiau i Gleient A addo ar fywyd merch Ms Thomas (a enwyd wrth y cleient). Roedd Ms Thomas wedi dweud wrth y cleient y byddai hyn yn pennu a oedd yn dweud celwydd ai peidio. Gwadodd Ms Thomas ei bod wedi dweud hyn wrth y cleient, ond cyfeiriodd aelod arall o staff at achlysur lle’r oedd Ms Thomas wedi dweud wrthi am alwad a wnaeth i Gleient A a’i bod wedi bod yn chwarae gêm. Pan ofynnodd yr aelod arall o staff beth oedd diben chwarae’r gêm gyda’r cleient, roedd Ms Thomas wedi ymateb, ‘O, dim ond i godi ei chalon’.
- Dywedodd Cleient A fod Ms Thomas wedi rhannu manylion salwch perthynas i aelod arall o staff.
- Daeth y Panel i’r casgliad bod Ms Thomas wedi datgelu gwybodaeth i Gleient A o naws bersonol, a oedd yn amhriodol ac roedd Cleient A wedi ei chael hi’n anodd ymdopi â hyn.
(4) Siarad yn amhriodol gyda Chleient B.
- Gan gyfeirio at Gleient B, honnwyd ar 20 Tachwedd 2019, fod Ms Thomas wedi’i gwahardd ac yn amlwg mewn gofid pan oedd ar fin gadael y prosiect tai â chymorth. Yna, awgrymodd Ms Thomas wrth Gleient B y dylai fynd gyda hi am goffi, ond y byddai Ms Thomas mewn ‘hyd yn oed mwy o drafferth’ pe bai’n gwneud hyn. Hysbyswyd y panel bod dau reolwr wedi gofyn i Ms Thomas adael ar fwy nag un achlysur fel nad oedd cleientiaid yn ei gweld mewn gofid, ond iddi fethu gwneud hynny. Clywodd aelod arall o staff ei sylw. Daeth y Panel i’r casgliad bod yr ymddygiad hwn yn amhriodol, yn enwedig mewn perthynas â Chleient B a oedd â hanes o hunan-niweidio.
Tra’n cael ei chyflogi gan Cardiff Women’s Aid
(5) Methu cadw ffin broffesiynol briodol gyda Chleient B
- Fel rhan o’r ymchwiliad gan CWA, cyfwelwyd rheolwr o Platfform. Dywedodd, ar ôl i Ms Thomas gael ei gwahardd ar 20 Tachwedd 2019, fod Cleient B wedi credu ei bod yn gyfrifol am nad oedd Ms Thomas wedi dychwelyd i weithio i Platfform. Ym mis Ionawr 2020, cysylltodd rhieni Cleient B â Platfform gan eu bod yn poeni am Gleient B. Roeddynt wedi clywed bod Cleient B yn aros gyda ffrind o’r enw ‘Sarah’. Cadarnhawyd bod yr heddlu wedi dod o hyd i Gleient B yng nghartref Ms Thomas.
- Mae rhywfaint o wybodaeth wedi ei ddileu er mwyn diogelu hawliau trydydd parti.
(6) Methu cadw cyfrinachedd cleient.
- Yn ystod y cyfweliad ar 31 Mawrth 2021, dywedodd Ms Thomas nad oedd hi wedi rhannu gwybodaeth gyfrinachol yn fwriadol gyda Chleient B ân unrhyw gleient CWA. Fodd bynnag, dywedodd Ms Thomas fod achlysur wedi bod lle’r oedd Ms Thomas wedi bod yn trafod cleient ar alwad tair ffordd. Dywedodd Ms Thomas fod Cleient B yn eistedd yn ei hystafell wely weithiau ac yn gwrando ar alwadau o bosibl. Dywedodd Ms Thomas y gallai Cleient B fod wedi clywed enwau a gwybodaeth bersonol sensitif arall os oedd hi wedi clywed galwadau Ms Thomas.
Casgliad.
- Cadarnhaodd Ms Thomas ei bod yn cytuno â’r ffeithiau a nodir yn y datganiad hwn.
- Cadarnhaodd Ms Thomas nad oes bwriad ganddi weithio yn y dyfodol mewn unrhyw swydd a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chofrestru gan Gofal Cymdeithasol Cymru a’i bod am i’w henw gael ei dynnu oddi ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru dan gytundeb Rheol 9 Rheolau Ymchwiliadau 2020. Mae’r datganiad hwn o ffeithiau y cytunwyd arnynt wedi’u paratoi at y diben hwnnw.
- Os, yn groes i’w bwriad datganedig, y byddai Ms Thomas yn gwneud cais i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn y dyfodol, mae’n cydnabod y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ystyried cynnwys y datganiad hwn o ffeithiau y cytunwyd arnynt wrth ystyried cais o’r fath.