Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod person cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.
Medrai person cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.
Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan y person cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.
Datganiad Ffeithiau wedi’I gytuno
Cyflwyniad
1. Cofrestrodd Mr Lawrence Vaughan (Mr Vaughan) â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant ar 20 Mai 2015.
2. Cyflogwyd Mr Vaughan gan Crystal Care Solutions (CCS) fel Gweithiwr Cymorth rhwng 17 Ionawr 2019 a 12 Chwefror 2020.
3. Cafodd Mr Vaughan ei ddiswyddo yn dilyn gwrandawiad disgyblu a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2020, a oedd yn ystyried honiadau nad ydynt yn gysylltiedig â'r rhai isod. O ganlyniad, nid yw'r honiadau isod wedi'u hystyried mewn gwrandawiad disgyblu.
4. Dyddiad y digwyddiadau sy'n destun yr honiadau hyn yw 11 a 12 Hydref 2019.
5. Mae'r honiadau yn ymwneud â Pherson Ifanc A a Pherson Ifanc B. Roedd Person Ifanc A yn bresennol yn y Cartref am rywfaint o'r amser ar 11 a 12 Hydref 2019. Mae Person Ifanc A mewn perygl o ddioddef cam-fanteisio’n rhywiol ar blant. Cofnodwyd y perygl hwn fel rhan o asesiad risg Person Ifanc A, ac roedd Mr Vaughan yn gwybod am y perygl. Oherwydd pryderon Person Ifanc A am ymddygiad Mr Vaughan ar 11 Hydref 2019, penderfynodd adael y Cartref a mynd i'r orsaf heddlu agosaf. Fe'i casglwyd wedyn gan un o gydweithwyr Mr Vaughan.
6. Cafodd Person Ifanc B gysylltiad dros y ffôn yn unig â Mr Vaughan ar 11 Hydref 2019.
Honiadau
Eich bod chi, tra roeddech wedi'ch cofrestru fel Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Ac wedi'ch cyflogi gan Crystal Care Solutions (CCS):
(1). Ar 11 a/neu 12 Hydref 2019, wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at Berson Ifanc A gan eich bod:
a. Wedi dweud wrth Berson Ifanc A y byddech yn mynd â’r unigolyn hwn allan am bryd o fwyd
7. Cyfaddefodd Mr Vaughan pan gafodd ei gyfweld ei fod wedi dweud wrth Berson Ifanc A y byddai'n mynd â’r unigolyn hwn allan am bryd o fwyd gan ei fod ar ei ben ei hun.
b. Wedi dweud wrth Berson Ifanc A eich bod yn caru’r unigolyn hwn
8. Dywed Mr Vaughan ei bod yn debygol iddo ddweud rhywbeth tebyg i, "rwyt ti'n hyfryd," a "rwy'n dy garu di," ond nid mewn ffordd sinistr. Derbyniodd Mr Vaughan y gallai'r geiriau hyn fod wedi swnio'n amhriodol oherwydd sgil-effeithiau'r feddyginiaeth presgripsiwn roedd yn ei chymryd.
(2). Ar 11 a/neu 12 Hydref 2019, methodd â goruchwylio Person Ifanc A yn ddigonol gan fod yr unigolyn hwn wedi gadael y cartref am tua 23:30 heb yn wybod i chi.
9. Mae Mr Vaughan yn cofio bod Person Ifanc A wedi camu allan i gael sigarét tua 23:30, ond ar ôl syrthio i gysgu ar ôl hyn, nid oedd yn gwybod nad oedd Person Ifanc A wedi dychwelyd, nes iddo gael ei hysbysu gan gydweithiwr tua 01:30 ar 12 Hydref 2019.
(3). Ar 11 a/neu 12 Hydref 2019, ni chymerodd unrhyw gamau/unrhyw gamau priodol i weithredu protocolau lleol mewn perthynas â pherson ar goll.
10. Mae Mr Vaughan yn cyfaddef nad oedd wedi dilyn unrhyw brotocolau lleol mewn perthynas â Pherson Ifanc A yn gadael y cartref, gan nad oedd yn gwybod bod Person Ifanc A wedi gadael y cartref.
(4). Wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at Berson Ifanc B gan eich bod:
a. Ar 11 a/neu 12 Hydref 2019 wedi dweud geiriau tebyg i, "rwy'n gweld dy eisiau di" "rwy'n dy ffansio di," ac "rwyt ti'n ferch berffaith," wrth Berson Ifanc B.
11. Dywed Mr Vaughan y byddai wedi dweud rhywbeth tebyg i, "rwyt ti'n anhygoel," "rwyt ti'n gwneud yn dda," "dal ati gyda'r gwaith da," "rwyt ti'n berson hyfryd," "dylet ti fod yn falch o ba mor dda rwyt ti'n symud ymlaen."
b. Ar ddyddiad anhysbys, eich bod wedi datgelu gwybodaeth bersonol i Berson Ifanc B.
12. Mae Mr Vaughan yn cyfaddef iddo ddatgelu gwybodaeth bersonol i Berson Ifanc B, gan nad oes unrhyw ffordd arall y gallai fod wedi gwybod am y wybodaeth.
(5). Wedi methu cadw cofnodion clir a chywir.
13. Mae Mr Vaughan yn cyfaddef nad oedd wedi cadw cofnodion ar gyfer Pobl Ifanc A a B yn ystod ei shifft ar 11 Hydref 2019. Roedd Mr Vaughan yn bwriadu cwblhau'r cofnodion y diwrnod canlynol.
(6). Wedi methu cynnal y cartref i safon foddhaol gan fod:
a. Cynwysyddion tecawê wedi'u gadael allan;
b. Roedd wrin ar sedd y toiled a'r llawr o'i chwmpas; a/neu
c. Roedd glendid cyffredinol y cartref yn ddiffygiol.
14. Mae Mr Vaughan wedi cyfaddef nad oedd y cartref mewn cyflwr da. Nid oedd wedi glanhau ar ôl ei hun. Cyfaddefodd fod cynwysyddion tecawê wedi'u gadael allan, a'i bod yn bosibl iddo wneud llanast wrth ddefnyddio'r toiled.
Casgliad
15. Mae Mr Vaughan yn cadarnhau ei fod yn cytuno â'r ffeithiau a nodir yn y datganiad hwn.
16. Mae Mr Vaughan yn cadarnhau nad oes bwriad ganddo weithio yn y dyfodol mewn unrhyw swydd a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei chofrestru gan GCC a'i fod yn dymuno i'w enw gael ei dynnu oddi ar gofrestr GCC drwy gytundeb o dan Reol 9 Rheolau Ymchwilio 2020. Mae'r datganiad ffeithiau wedi'i gytuno hwn wedi'i baratoi at y diben hwnnw.
17. Pe bai Mr Vaughan, yn groes i'r bwriad a fynegwyd ganddo, yn gwneud cais i gofrestru gyda GCC yn y dyfodol, mae'n cydnabod y bydd GCC yn ystyried cynnwys y datganiad ffeithiau wedi'i gytuno hwn wrth ystyried cais o'r fath.