Jump to content
Jonathan Charles Leonhardt
Rôl cofrestredig
Rheolwr cartrefi gofal oedolion
Canlyniad
Diddymu trwy Gytundeb
Lleoliad
N/A
Cyflogwr
Gynt Sure Plan Homes Ltd
Math o wrandawiad
Ni gynhelir panel gan Bwyllgor -  proses Diddymu trwy Gytundeb

Crynodeb o'r penderfyniad

Diddymu trwy Gytundeb

Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod person cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.

Medrai person cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.

Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan y person cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.


Cyflwyniad

1. Cofrestrodd Mr Jonathan Charles Leonhardt ('Mr Leonhardt') â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Rheolwr Cartref Gofal i Oedolion ar 26 Hydref 2011. Fe'i cyflogwyd gan Sure Plan Homes Limited fel Rheolwr Cofrestredig Cartref Nyrsio Meadow House yn Abertawe. Dechreuodd y rôl honno ym mis Chwefror 2017. Caewyd y cartref ar 30 Awst 2019 a symudwyd yr holl breswylwyr i gartrefi eraill. Cafodd Mr Leonhardt ei ddiswyddo bryd hynny.

2. Cyn cau'r Cartref, roedd y Cartref yn destun pryderon cynyddol ac roedd Cynllun Gweithredu wedi'i ddatblygu ar eu cyfer. Arweiniodd Cyngor Abertawe ar y Cynllun Gweithredu, a oedd yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) hefyd.

Honiadau

Tra roedd wedi'i gofrestru fel Rheolwr Cartref Gofal i Oedolion ac yn cael ei gyflogi gan Sure Plan Homes Limited fel Rheolwr.

(1) Rhwng Rhagfyr 2018 a 3 Chwefror 2019, mewn perthynas ag Unigolyn A, ni wnaethoch sicrhau:

(a) bod cofnodion ysgarthu yn cael eu cadw;

(b) bod camau dilynol ar gyfer presgripsiynau rheolaidd o foddion gweithio’r corff yn cael eu cymryd

3. Ar 3 Chwefror 2019, bu farw Unigolyn A a chyhoeddwyd tystysgrif marwolaeth yn nodi bod y farwolaeth yn sgil achosion naturiol. Fodd bynnag, roedd cwest wedi'i gynnal a ddaeth i'r casgliad bod y farwolaeth oherwydd tagfa ysgarthol. Sylwodd y Nyrs Seiciatrig Gymunedol ar hyn a'i godi fel pryder gan fod y defnyddiwr gwasanaeth wedi cael presgripsiwn ar gyfer clozapine, meddyginiaeth gwrthseicotig, ac un o'i sgil-effeithiau yw rhwymedd. Roedd moddion gweithio’r corff yn cael eu rhagnodi'n rheolaidd ac roedd symudiadau'r coluddyn yn cael eu monitro a'u cofnodi. Roedd Unigolyn A angen padiau anymataliaeth ac felly byddai'n hawdd gwirio symudiadau'r coluddyn. Roedd symudiadau'r coluddyn yn cael eu hadolygu hefyd mewn clinig clozapine rheolaidd, bob pythefnos. Wrth archwilio, darganfuwyd nad oedd cofnod o symudiadau'r coluddyn wedi'i gadw. Bu bwlch o rhwng pedair a chwe wythnos pan nad oedd moddion gweithio’r corff wedi'i roi a phan nad oedd y presgripsiwn rheolaidd ar gyfer moddion gweithio’r corff wedi'i ddilyn. Yn y pen draw, cyfrifoldeb y Rheolwr Cofrestredig, Mr Leonhardt, oedd hyn.

4. Mewn Cyfarfod Strategaeth ar 6 Mehefin 2019, cyfaddefodd Mr Leonhardt mai ef oedd yn gyfrifol am hyn yn y pen draw.

(2) Ni wnaethoch sicrhau bod nifer priodol o aelodau staff bob amser.

5. Roedd y mater o lefelau staffio wedi'i godi gan AGC mewn adroddiadau arolygu a chan yr Awdurdod Lleol. O ymweliadau monitro, canfuwyd nad oedd gan y Cartref byth y nifer cyflawn o aelodau staff y tîm a'i fod yn aml yn cyflogi staff asiantaeth.

(3) Ni wnaethoch sicrhau bod yr holl aelodau staff yn addas i weithio yn y Cartref gan nad oedd gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer pob aelod staff.

6. Yn dilyn arolygiad o'r Cartref gan AGC, cyhoeddwyd Rhybudd o Ddiffyg Cydymffurfiaeth ar 17 Mehefin 2019. Roedd hyn yn cyfeirio at absenoldeb dogfennau llawn a boddhaol mewn perthynas â phob aelod o staff. Yn benodol, nodwyd nad oedd bylchau yn hanes cyflogaeth dau aelod staff wedi'u harchwilio er mwyn cael hanes cyflogaeth llawn. Yn ogystal, nid oedd rhai ffeiliau'n cynnwys ffotograff diweddar. Dywedwyd mai'r effaith ar unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth oedd nad oedd yr holl ragofalon wedi'u cymryd i'w cadw'n ddiogel.

(4) Ni wnaethoch sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a'r cymorth a ddarparwyd gan y Cartref.

7. Ar 17 Mehefin 2019, cyhoeddwyd Rhybudd o Ddiffyg Cydymffurfiaeth arall mewn perthynas â methu â sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a'r cymorth a ddarparwyd gan y Cartref. Dywedwyd bod y Polisi a'r Weithdrefn Sicrhau Ansawdd yn annigonol ac nad oedd yn addas i'r diben. Nodwyd nad oedd cynllun ysgrifenedig ar gyfer archwilio gweithgareddau i gynnal gwiriadau ar ansawdd y gofal.

8. Yn ogystal, nid oedd unrhyw drefniadau effeithiol ar waith i sicrhau bod ei holl wiriadau iechyd a diogelwch yn gyfredol ac yn foddhaol. Roedd y Rhybudd o Ddiffyg Cydymffurfiaeth yn nodi hefyd nad oedd y systemau a'r prosesau'n cael eu hadolygu'n barhaus fel y gellir nodi lle'r oedd ansawdd a diogelwch gwasanaethau'n cael eu peryglu neu y gallent fod wedi'u peryglu.

9. Roedd yr Hysbysiad o Ddiffyg Cydymffurfiaeth yn nodi bod angen cymryd camau sylweddol er mwyn sicrhau bod trefniadau effeithiol o'r fath ar waith. Ar adeg yr arolygiad, cydnabuwyd nad oedd cynnydd yn erbyn cynlluniau'n cael ei fonitro yn erbyn cynlluniau i wella ansawdd a diogelwch ac nad oedd camau'n cael eu cymryd ar unwaith pan nad oedd y cynnydd yn ôl y disgwyl.

(5) Ni wnaethoch sicrhau bod trefniadau ar waith i fonitro Unigolyn B.

10. Roedd Unigolyn B yn destun deddfwriaeth Amddifadu o Ryddid, ond llwyddodd i ddianc yn rheolaidd. Roedd hyn er gwaethaf y ffaith bod yr Awdurdod Lleol wedi ariannu staff 1:1 a bod mesurau diogelwch ychwanegol ar y drysau ymadael. Nid oedd y gwaith o gynnal y mesurau diogelwch ychwanegol hyn yn cael ei fonitro a byddai Unigolyn B yn ysgwyd y gât a byddai'n agor gan ganiatáu iddynt adael.

(6) Ni wnaethoch adrodd mater diogelu i'r Unigolyn Cyfrifol.

11. Gwnaed atgyfeiriad diogelu ar 25 Gorffennaf 2019 gan yr Unigolyn Cyfrifol am fethiant Mr Leonhardt i adrodd mater diogelu arall. Ymchwiliwyd i fanylion yr atgyfeiriad hwn mewn ymweliad dirybudd gan Uwch Ymarferydd a Swyddog Monitro Contractau ar 2 Awst 2019. Yn ystod yr ymchwiliad, gwelwyd bod drysau ystafelloedd gwely'r defnyddwyr gwasanaeth wedi'u cloi a bod pobl y tu mewn i'r ystafelloedd. Roedd 'clo bawd' ar y tu mewn ond o ystyried bod gan y rhan fwyaf o'r defnyddwyr gwasanaeth broblemau iechyd meddwl, rhai heb alluedd, efallai na fyddent wedi gallu gadael eu hystafelloedd pe bai tân. Ni wnaeth y Rheolwr Cofrestredig adrodd y mater hwn i'r Unigolyn Cyfrifol ar adeg yr ymweliad.

Casgliadau.

12. Mae Mr Leonhardt yn cadarnhau ei fod yn cytuno â'r ffeithiau a nodir yn y datganiad hwn.

13. Mae Mr Leonhardt yn cadarnhau nad oes ganddo fwriad yn y dyfodol i weithio mewn unrhyw swydd a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei gofrestru gan GCC a'i fod yn dymuno i'w enw gael ei dynnu oddi ar gofrestr GCC drwy gytundeb dan Reol 9 o Reolau Ymchwilio 2020. Paratowyd y datganiad hwn o ffeithiau y cytunwyd arnynt at y diben hwnnw.

14. Os, yn groes i'r bwriad a fynegwyd ganddo, y bydd Mr Leonhardt yn gwneud cais i gofrestru gyda GCC yn y dyfodol, mae'n cydnabod y gallai GCC roi sylw i gynnwys y datganiad hwn wrth ystyried cais o'r fath.