Jump to content
Janet Ann Bell

Yn anffodus oherwydd gollyngiad dŵr dydy ein llinellau ffôn ddim yn gweithio. Rydyn ni’n gweithio'n galed i ddatrys y mater ac yn ymddiheuro am unrhyw broblemau a achosir.

Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal catref
Canlyniad
Diddymu trwy gytundeb
Lleoliad
Ddim yn berthnasol
Cyflogwr
Yn flaenorol Right at Home Swansea (later Adult Home Care)
Math o wrandawiad
Ni gynhelir panel gan bwyllgor -  proses diddymu trwy gytundeb

Crynodeb o'r penderfyniad

Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod person cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.

Medrai person cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.

Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan y person cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.


Cyflwyniad

1. Cofrestrodd Mrs Janet Bell (Mrs Bell) â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Gweithiwr Gofal Cartref ar 6 Gorffennaf 2020.

2. Cyflogwyd Mrs Bell gan Right at Home Abertawe (Adult Home Care yn ddiweddarach) adeg yr honiad. Ers hynny, mae Adult Home Care wedi rhoi'r gorau i fasnachu.

3. Ar 19 Gorffennaf 2021, derbyniodd Gofal Cymdeithasol Cymru atgyfeiriad gan Right at Home Abertawe yn nodi bod Mrs Bell wedi ymosod ar ddefnyddiwr gofal a chymorth (UCAS1) ar 23 Mawrth 2021. Roedd gweithiwr gofal arall wedi rhoi gwybod am y digwyddiad ar ôl gweld yr ymosodiad honedig.

Honiadau

Eich bod chi, tra roeddech wedi'ch cofrestru fel Gweithiwr Gofal Cartref

Ac wedi'ch cyflogi gan Right at Home Abertawe/Adult Home Care:

(1) Ar 23 Mawrth 2021, wedi taro defnyddiwr gofal a chymorth (UCAS1) fwy nag unwaith ar y fraich.

4. Roedd yr aelod arall o staff a welodd y digwyddiad wedi gwneud cwyn, gan nodi:

'Wrth newid pad a gorchudd gwely [UCAS1], gofynnodd fy nghydweithiwr gofal i [UCAS1] rolio tuag ati. Cwynodd [UCAS1] fod Janet yn rhy arw, gan daro Janet ar ei braich. Yna, tarodd Janet [UCAS1] yn ôl ar y fraich, tarodd [UCAS1] Janet eto a tharodd Janet [UCAS1] ar y fraich gan ddweud [UCAS1] "os ydych chi'n dal i'm taro i, fe wnaf eich taro yn ôl".

5. Yn ystod cyfarfod ymchwilio gyda'i chyflogwr, darllenwyd y gŵyn hon iddi a derbyniodd fod y gŵyn yn gywir. Dywedodd Mrs Bell eiriau tebyg i, "mae hi wedi fy nharo ac rwyf wedi ei tharo yn ôl, dim ond ymateb greddfol oedd e."

6. Pan ofynnwyd iddi a oedd hi'n sylweddoli bod yr hyn roedd wedi'i wneud yn gyfystyr â cham-drin, dywedodd Mrs Bell, 'Ydw, rwy'n gwybod. Rwy'n difaru beth wnes i, oherwydd roeddwn yn meddwl wedyn na ddylwn fod wedi gwneud hynny. Roedd yn rhywbeth na ddylai byth fod wedi digwydd. Dylwn fod wedi dweud 'peidiwch â'm taro i’, ac yna cerdded allan.

Casgliad

7. Mae Mrs Bell yn cadarnhau ei bod yn cytuno â'r ffeithiau a nodir yn y datganiad hwn.

8. Mae Mrs Bell yn cadarnhau nad oes bwriad ganddi weithio yn y dyfodol mewn unrhyw swydd a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chofrestru gan GCC a'i bod yn dymuno i'w henw gael ei dynnu oddi ar gofrestr GCC drwy gytundeb o dan Reol 9 Rheolau Ymchwilio 2020. Mae'r datganiad ffeithiau wedi'i gytuno hwn wedi'i baratoi at y diben hwnnw.

9. Pe bai Mrs Bell, yn groes i'r bwriad a fynegwyd ganddi, yn gwneud cais i gofrestru â GCC yn y dyfodol, mae'n cydnabod y bydd GCC yn ystyried cynnwys y datganiad ffeithiau wedi'i gytuno hwn wrth ystyried cais o'r fath.