Golyga Diddymu trwy Gytundeb bod person cofrestredig yn medru ymgeisio i dynnu eu henw oddi ar y Gofrestr heb gael ei gyfeirio at Banel.
Medrai person cofrestredig ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod proses addasrwydd i ymarfer.
Nid yw ymgeisio i dynnu enw oddi ar y Gofrestr yn golygu fod hawl gan y person cofrestredig gael ei enw wedi ddiddymu, ond mae’n galluogi’r Gofal Cymdeithasol Cymru i ystyried a chytuno diddymiad mewn achosion priodol.
Cyflwyniad
1. Cofrestrodd Ms Beverley Young (‘Ms Young) gyda Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) fel Gweithiwr Gofal Cartref ar 8 Rhagfyr 2019. Cyflogwyr Ms Young gydol y cyfnod perthnasol oedd Deluxe Homecare Ltd.
2. Ar 27 Mawrth 2019, mynychodd Ms Young gyfweliad ymchwiliol gyda’i chyflogwr. Gofynnwyd iddi a oedd hi wedi bod yn siopa dros Unigolyn A, a oedd yn derbyn gofal a chymorth. Cyfaddefodd Ms Young ei bod wedi bod yn siopa ar ran Unigolyn A yn ei hamser ei hun. Dywedodd y byddai Unigolyn A yn ysgrifennu siec yn daladwy i ferch Ms Young am swm y siopa pryd bynnag y byddai’n siopa iddi. Dywedodd Ms Young ei bod yn ymwybodol o’r polisi mewn perthynas â thrafod arian defnyddwyr gwasanaethau, gan gynnwys cadw cofnodion. Fodd bynnag, dywedodd pe na bai’n siopa i Unigolyn A, na fyddai unrhyw un arall wedi gwneud hynny. Dywedodd Ms Young hefyd fod gweithiwr cymdeithasol Unigolyn A yn ymwybodol ei bod yn siopa drosti.
3. Ar 27 Mawrth 2019, ysgrifennodd yr Unigolyn Cyfrifol ar gyfer Deluxe Homecare Ltd lythyr at Ms Young. Roedd y llythyr yn datgan:
'Following careful consideration, taking into account the number of personnel both within social services and your previous company Allied who were aware of the situation, I believe that you were placed in an untenable situation which was both unfair and unacceptable. Both myself and the social worker therefore agree that to balance what you have done against the facts it is appropriate to issue you with just a verbal warning on this occasion.
The verbal warning will remain on your file for a period of 6 months and the expectations attached are that you will not provide personal shopping for any of your service users if this is not part of your scheduled activities. Further, if you have any concerns in the future you will report them directly to me or to your branch manager. Any further breach of policy and procedure will be considered to be a serious matter'.
Honiadau
Tra’n gofrestredig fel Gweithiwr Gofal Cartref ac yn cael eich cyflogi gan Deluxe Care Ltd.
(1) Ar ddyddiadau anhysbys rhwng 27 Mawrth 2019 a 28 Mai 2021, gwnaethoch gamddefnyddio a/neu fanteisio ar eich perthynas gyda defnyddiwr gofal a chymorth, Unigolyn A, drwy gymryd benthyciadau a/neu roddion ariannol ganddo.
4. Derbyniwyd Unigolyn A, a oedd yn byw ar ben ei hun yn ei eiddo cyn hynny, i’r ysbyty ar ôl iddo gwympo. Yn ystod ei amser yn yr ysbyty, mynychodd ei gyn-wraig eiddo Unigolyn A i lanhau. Yn y cyfeiriad, agorodd gyfriflen a sylwodd fod y trafodion yn cynnwys achosion o dynnu arian parod (e.e. £500) o beiriant codi arian a thaliadau cerdyn am betrol. Canfuwyd llyfr siec hefyd, gyda bonion gyda ffigurau arnynt, gan gynnwys £3,000 wedi’i labelu ‘windows’ a £150 wedi’i labelu ‘B Junior’. Rhannwyd y wybodaeth hon gyda merch Unigolyn A, a roddodd wybod i’r heddlu am y mater.
5. Ar 28 Mai 2021, aeth yr heddlu i weld Unigolyn A yn yr ysbyty. Dywedodd wrth yr heddlu bod Ms Young yn gwneud ei siopa a bod ganddi fynediad at ei gerdyn banc a’i PIN at y diben hwn. Trafodwyd rhai o’r trafodion a oedd yn peri gofid gydag Unigolyn A. Er na allai esbonio pob un, dywedodd wrth yr heddlu ei fod yn ymddiried yn llwyr yn Ms Young ac nad oedd yn poeni am yr arian a oedd wedi’i wario a’i fod yn cydsynio i’r taliadau. Dywedodd Unigolyn A ei fod hefyd yn ymwybodol fod gan fam Ms Young ganser ac na allai fforddio ffenestri newydd a’i fod wedi rhoi’r arian yn rhodd iddi ac wedi arwyddo’r siec.
6. Gwaharddwyd Ms Young gan ei chyflogwr, ond ymddiswyddodd ar neges e-bost dyddiedig 6 Awst 2021.
7. Yn ogystal â chyfeirio’r mater at yr heddlu, gwnaed atgyfeiriad diogelu hefyd. Mewn Cyfarfod Pryderon Proffesiynol ar 1 Medi 2021, nodwyd bod yr heddlu wedi dod i’r casgliad nad oedd trosedd wedi’i chyflawni. Roedd Unigolyn A wedi cael ei gyfweld gan yr heddlu ar ddau achlysur ac wedi cadarnhau ei fod wedi rhoi ei ganiatâd ar gyfer yr holl drafodion a’i fod yn ymddiried yn llwyr yn Ms Young. Am y rhesymau hyn, nid oedd Ms Young wedi’i chyfweld gan yr heddlu dan rybudd.
8. Datganodd y cofnodion hefyd fod Ms Young wedi manteisio ar Unigolyn A ac wedi mynd yn groes i bolisi a gweithdrefn Deluxe Care Ltd. Nodwyd hefyd fod Ms Young wedi trosglwyddo £9,000 yn ôl i Unigolyn A o’i gwirfodd a oedd yn dangos bod Ms Young wedi cael mynediad at y swm hwn o arian gan Unigolyn A.
9. Mewn e-bost at yr Uwch Swyddog Cymhwyster i Ymarfer, dywedodd Ms Young:
'I understand the seriousness of this case, I am aware I broke all policies and procedures. I deserve to be removed from your register. I am only sorry for what I put the service user and his family and the company through.'
Casgliad.
10. Mae Ms Young yn cadarnhau ei bod yn cytuno â’r ffeithiau a nodir yn y datganiad hwn.
11. Mae Ms Young yn cadarnhau nad yw’n bwriadu gweithio yn y dyfodol mewn unrhyw swydd a fyddai’n gofyn iddi gofrestru gyda GCC a’i bod am i’w henw gael ei dynnu oddi ar gofrestr GCC drwy gytundeb dan Reol 9 o Reolau Ymchwilio 2020. Mae’r datganiad hwn o ffeithiau y cytunir arnynt wedi’i baratoi at y diben hwnnw.
12. Pe bai Ms Young, yn groes i’w bwriad a fynegwyd, yn gwneud cais i gofrestru gyda GCC yn y dyfodol, mae’n cydnabod y bydd GCC yn ystyried cynnwys y datganiad hwn o’r ffeithiau y cytunir arnynt.