Jump to content
Natalie Bidgood
Rôl cofrestredig
Gweithiwr Gofal Cartref
Canlyniad
Gorchymyn dileu
Lleoliad
Gwrandawiad o bell gan Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Ultra Care Health Care
Math o wrandawiad
Panel Addasrwydd i Ymarfer

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod honiadau o anonestrwydd a chamymddwyn difrifol wedi’u profi yn erbyn Natalie Bidgood, gweithiwr gofal cartef cofrestredig.

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Natalie Bidgood i ymarfer a gosododd Orchymyn Dileu sy’n golygu na fydd yn gallu gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol gofrestredig yng Nghymru mwyach.

Mae gan Natalie Bidgood yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru


Crynodeb o honiadau

Tra wedi’i gofrestru fel Gweithiwr Gofal Cartref ac wedi’i gyflogi gan Cardiff Care Home Services:

Rhwng 2 Mehefin 2020 a 16 Mehefin 2020:

a. Wedi tynnu meddyginiaeth presgripsiwn, sef Zapain, sy'n perthyn i Ddefnyddiwr Gofal a Chymorth a

b. Wedi disodli'r Zapain rhagnodedig gyda pharasetamol