Jump to content
Jade Fitzpatrick
Rôl cofrestredig
Gweithiwr gofal preswyl i blant
Canlyniad
Gorchymyn brys i atal cofrestriad o 24/03/2022 tan ddechrau Gorchymyn Dileu ar 21/04/2022
Lleoliad
Roedd hwn yn gwrandawiad o bell gan Zoom
Cyflogwr
Yn flaenorol Keys Group
Math o wrandawiad
Addasrwydd i ymarefer (clywir yn rhannol, gwrandawiad wedi’i ailgynnull o 28 Chwefror – 9 Mawrth)

Crynodeb o'r penderfyniad

Mae Panel Addasrwydd i Ymarfer wedi canfod bod yr honiadau canlynol wedi’u profi yn erbyn Jade Fitzpatrick, Gweithiwr Gofal Preswyl Plant cofrestredig:

• methu â chynnal ffin broffesiynol briodol, a

• ffurfio perthynas amhriodol gyda Pherson Ifanc 1(YP1), a

• bod ei hymddygiad wedi'i ysgogi'n rhywiol.

• ni ddatgelodd ei bod yn destun ymchwiliad parhaus gan Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn destun gorchymyn atal dros dro i'w chyflogwr newydd

Canfu’r Panel fod amhariad ar addasrwydd presennol Jade Fitzpatrick i ymarfer a gosododd orchymyn Dileu sy’n golygu na all weithio mwyach mewn unrhyw rôl gofal cymdeithasol a reoleiddir yng Nghymru.

Mae gan Jade Fitzpatrick yr hawl i apelio i'r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Mae copi o resymau llawn y panel ar gael ar gais.

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyfryngau/y wasg- cysylltwch â: cyfathrebu@gofalcymdeithasol.cymru

Y cyhoedd- cysylltwch â: gwrandawiadau@gofalcymdeithasol.cymru

Crynodeb o honiadau

Honnir bod Jade Fitzpatrick (RP2) tra’n gyflogedig gan Keys Childcare, wedi methu â chynnal ffin broffesiynol briodol a/neu wedi ffurfio perthynas amhriodol gyda Pherson Ifanc 1(YP1) a bod ei hymddygiad wedi’i ysgogi’n rhywiol.