Gwybodaeth am y Fframwaith sgiliau cymhwysedd i rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Mae fframwaith sgiliau cymhwysedd Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant yn seiliedig ar arfer ac mae'n galluogi rheolwyr newydd i gasglu sgiliau arwain a rheoli sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae’n cyd-fynd â chanlyniadau dysgu gorfodol cymhwyster Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer City & Guilds. Er nad oes angen y cymhwyster hwn ym mhob lleoliad blynyddoedd cynnar a gofal plant, mae’n orfodol ar gyfer swyddi arwain mewn lleoliadau Dechrau’n Deg. Gallwch ddod o hyd i'r rhestr o gymwysterau cymeradwy ar gyfer arweinydd Dechrau'n Deg / person â gofal yma: Arweinydd Dechrau'n Deg / person â gofal.
Byddwch yn casglu tystiolaeth mewn ffordd naturiol, trwy eich gwaith o ddydd i ddydd gan ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth a mapio eich tystiolaeth yn eich cofnodion cynnydd.
Mae arweinlyfr i'ch helpu chi i gwblhau'r cofnodion cynnydd. Gallwch chi ddod o hyd i’r arweinlyfr sgiliau cymhwysedd yma: Arweinlyfr sgiliau cymhwysedd Fframwaith sefydlu Cymru gyfan ar gyfer rheolwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Unwaith y bydd y cofnodion cynnydd isod wedi'u cwblhau byddwch yn gallu lawrlwytho'r dystysgrif cwblhau'n llwyddiannus: Tystysgrif cwblhau'n llwyddiannus.