Cyn gwneud cais
I wneud cais i gofrestru gan ddefnyddio’r llwybr cymhwysedd a gadarnhawyd, mae angen i chi fod wedi gweithio am o leiaf tair blynedd o fewn y pum mlynedd diwethaf mewn rôl gofal neu gymorth perthnasol.
Eich profiad:
- rydych wedi bod mewn swydd gyflogedig (nid gwaith gwirfoddol)
- nid oes angen iddo fod yn brofiad parhaus
- yn gallu dod o waith llawn-amser neu ran-amser
- gall fod yn waith gydag amrywiol gyflogwyr.
Mae angen i'ch cyflogwr presennol fod yn sicr bod gennych chi ddigon o brofiad, yn seiliedig ar eich hanes cyflogaeth a geirdaon gan eich cyflogwr blaenorol.
Sut mae'n gweithio
Cyn gwneud cais i gofrestru, mae angen i'ch rheolwr cofrestredig sicrhau y gallwch ddangos yn gyson eich bod yn bodloni ein cymwyseddau gofynnol. Gweler:
- cymwyseddau gofynnol: gweithwyr gofal cartref
- cymwyseddau gofynnol: gweithwyr cartrefi gofal i oedolion
Bydd eich rheolwr cofrestredig yn defnyddio'r rhestr hon i gasglu tystiolaeth sy'n profi bod eich ymarfer yn bodloni ein safonau.
Bydd ganddynt enghreifftiau o'r math o dystiolaeth y gallwch ei defnyddio.
Nid oes angen i chi lanlwytho'r dystiolaeth fel rhan o'r cais.
Mae angen i chi gadw'r dystiolaeth rhag ofn y cewch eich dewis ar gyfer archwiliad.
Sut i wneud cais i gofrestru
Gwyliwch ein fideo ar sut i ddechrau ar y broses ymgeisio:
I wneud cais gan ddefnyddio'r llwybr cymhwysedd a gadarnhawyd, gwyliwch ein fideo i ddarganfod yr hyn sy'n rhaid i chi ei wneud:
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch cais, byddwn yn anfon e-bost at eich rheolwr yn gofyn iddynt fewngofnodi i'w cyfrif GCCarlein a chwblhau'r datganiad cymhwysedd.
Fe roddwn wybod i chi os yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus.
Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal gwiriadau sampl ac yn gofyn am gopïau o’ch tystiolaeth. Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio a ydych yn addas i gofrestru.
Mae eich rheolwr cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau bod eich tystiolaeth yn gywir.
Os bydd eich rheolwr yn cyflwyno gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, mae'n bosibl y caiff ei dileu oddi ar y Gofrestr.
Os yw Arolygiaeth Gofal Cymru yn pryderu ynghylch eich cymhwysedd, byddant yn rhoi gwybod i ni.
Ar ôl cofrestru
Unwaith y bydd eich cais i gofrestru wedi'i gymeradwyo, bydd angen i chi gwblhau 45 awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP).
Bydd gennych dair blynedd i wneud hyn.
Bydd angen i chi fewngofnodi eich DPP yn eich cyfrif GCCarlein.
Bydd angen i chi fod wedi cwblhau a mewngofnodi 45 awr neu fwy i adnewyddu eich cofrestriad ymhen tair blynedd.
Os byddwch yn cofrestru drwy'r llwybr cymhwysedd a gadarnhawyd cyn 1 Hydref 2022, ni fydd angen i chi gwblhau cymhwyster i adnewyddu eich cofrestriad.
Os byddwch yn newid swydd
Os byddwch yn cofrestru gan ddefnyddio'r llwybr cymhwysedd a gadarnhawyd, bydd eich cofrestriad yn parhau i fod yn ddilys os byddwch yn cael swydd newydd gyda chyflogwr gwahanol.
Mae hyn oherwydd bod eich cofrestriad yn gysylltiedig â chi, ac nid â sefydliad.
Cysylltu
Os hoffech drafod y llwybr cymhwysedd a gadarnhawyd â rhywun, e-bostiwch: ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru.