Skip to main content
Hygyrchedd y safle

Covid-19: Gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau i'ch cefnogi trwy'r pandemig

Tudalen hafan Covid-19

Unigrwydd a Covid-19

28 Ebrill 2020
Dr Deborah Morgan, Uwch Swyddog Ymchwil yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol

Mae’r sefyllfa bresennol gyda phandemig Covid 19 yn dod â’r mater o unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol i’r amlwg, wrth i bobl o bob oed fynegi pryderon am hunan-ynysu. Mae rhai pobl, yn cynnwys oedolion hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd sylfaenol yn wynebu’r posibilrwydd o hunan-ynysu am fisoedd.

Mae’n gyfnod pryderus i bob un ohonom, gyda phryderon ynghylch iechyd anwyliaid ond hefyd gyda phryderon ynghylch profi unigrwydd. Yn y blynyddoedd diweddar, mae unigrwydd yn rhywbeth rydyn ni wedi clywed mwy amdano ac efallai bod y portread o unigrwydd yn codi pryderon ychwanegol ynghylch yr effaith ar ein hiechyd a’n llesiant. Yn yr erthygl hon, byddaf yn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r pryderon hyn ac yn tynnu sylw at ffyrdd y gallwn helpu ein hunain ac eraill yn yr amser anodd hwn.

Daw unigrwydd mewn sawl ffurf. Ceir teimladau o unigrwydd dros dro (unigrwydd sy’n mynd a dod) y bydd llawer ohonom wedi’i brofi mewn sefyllfaoedd newydd, fel dechrau swydd neu fynd i’r brifysgol, neu weithiau pan rydym yn treulio amser ar ein pennau ein hunain, a phawb arall yn ymddangos yn brysur. Ceir math arall, sef unigrwydd cronig hefyd, y teimlad cyson hwnnw o unigrwydd sydd ddim yn diflannu. Gall unigrwydd gael ei sbarduno gan nifer o bethau, ond yn enwedig y newidiadau mawr mewn bywyd fel mamolaeth, ymddeoliad, profedigaeth, dechrau salwch neu anabledd, neu gyfrifoldebau gofalu.

Yn y cyfryngau, byddwn yn clywed yn aml fod unigrwydd yn cael effaith negyddol ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Er nad oes amheuaeth fod unigrwydd dros gyfnod hir yn effeithio ar ein hiechyd meddwl, mae’r effaith ar ein hiechyd corfforol yn llai sicr.

I’r mwyafrif o bobl sy’n dod i gysylltiad â Covid 19, gall hunan-ynysu gynyddu teimladau o unigrwydd dros dro, ond bydd yn annhebygol iawn o gael unrhyw effaith barhaol ar eich iechyd corfforol, er efallai y byddwch chi’n profi rhai newidiadau yn eich hwyliau, bydd y rhain yn debygol o basio unwaith y bydd y cyfyngiadau wedi codi.

Er hynny, i’r unigolion hynny sy’n byw ar eu pennau eu hunain, neu sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol ac sydd mewn mwy o berygl o unigrwydd cronig, gall hunan-ynysu fod yn beth brawychus iawn. Yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, dwi wedi cael sgyrsiau gyda llawer o bobl sydd yn y sefyllfa yma, unigolion sy’n byw ar eu pennau eu hunain ac sy’n ofni gweithio o adref oherwydd yr effaith y bydd unigedd yn ei gael ar eu hiechyd meddwl, y rhai sydd eisoes yn unig ac yn ynysig a’r unigolion hynny sy’n dibynnu ar grwpiau a gweithgareddau cymdeithasol i atal y teimladau hynny o unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol. Ac eto, mae yna bethau y gallwn eu gwneud i helpu ein hunain, a’r rhai o’n cwmpas.

Beth allwn ni ei wneud, fel unigolion, os ydyn ni’n hunan-ynysu?

Un o strategaethau ymdopi’r oedolion hŷn unig yn fy ymchwil, i reoli teimladau o unigrwydd, oedd cymryd rhan mewn gweithgareddau i dynnu sylw o’u hunigrwydd. Roedd sawl un yn hoff o gymryd rhan mewn celf a chrefft, a cherddoriaeth. Efallai y bydd hwn yn gyfle i ddatblygu prosiect rydych chi efallai wedi bod yn ei ohirio, i ymgymryd â hobi nad ydych chi wedi cael amser i’w wneud oherwydd pwysau gwaith. Gall gweithgareddau yr ydych yn ei wneud ar eich pen eich hun, fel darllen, gwrando ar gerddoriaeth neu lyfrau sain, neu arddio, oll helpu i dynnu sylw dros dro oddi wrth y teiladau hynny o unigrwydd.

Rydym yn gwybod bod lleoedd glas a gwyrdd fel y’u gelwir yn dda i lesiant pobl o bob oed, gan helpu i leihau iselder ysbryd a hyrwyddo ymdeimlad o lesiant. Os na allwch fynd allan, mae’n bwysig ceisio cael hyd i le glas neu wyrdd i edrych allan arno, neu i wneud amser i fynd allan yn yr awyr iach, hyd yn oed os mai eistedd ar falconi neu mewn awyr agored yn unig yw hynny. Peidiwch â thanamcangyfrif pŵer yr olygfa o’ch ffenestr, fel y canfu ymchwil gan Dr Charles Musselwhite o’n hadran yma yn Abertawe.

Sicrhewch eich bod yn bwyta’n iawn, yn gorffwys ac yn gwneud rhywfaint o ymarfer corff, ac os oes gennych fynediad at dechnoleg, nid yw erioed wedi bod yn haws cadw mewn cysylltiad â phobl.

Peidiwch â bod ofn estyn allan a dweud wrth rywun eich bod chi’n teimlo’n unig. Nid oes cywilydd bod angen pobl eraill yn ein bywydau, ac nid yw’n golygu bod unrhyw beth o’i le â chi, nid ydych wedi methu mewn unrhyw ffordd. Yn aml, mae unigrwydd yn ganlyniad o’n hamgylchiadau, yn enwedig y dyddiau hyn pan mae llawer ohonom yn byw yn bell oddi wrth ffrindiau a theulu.

Cefnogwch y rhai sydd yn hunan-ynysu

Mae yna bethau y gallwn ni oll eu gwneud i gefnogi pobl sy’n gorfod hunan-ynysu. Gallwn siarad â’n cymdogion dros wal yr ardd, ffonio ffrind y gwyddom ei fod ar ei ben ei hun neu sy’n gofalu am rywun, estyn allan i’r rhai yn eich ardal gyfagos, Mae enghreifftiau hyfryd o unigolion yn gwneud hynny yn ystod yr argyfwng hwn yn barod, er enghraifft y cymdogion sy’n gollwng cardiau i bobl fregus, yn cynnig siopa meddyginiaeth neu’n glust gyfeillgar am sgwrs.

Gall gwneud yr amser i eraill a’r gweithredoedd bach caredig hyn fynd yn bell i rywun sy’n teimlo’n unig, a bod yn wir help i unigolion sy’n hunan-ynysu, fel eu bod yn gwybod nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Efallai na fyddwn yn gallu bod mewn cysylltiad corfforol â phobl ond gallwn oll gysylltu â chymdogion, teulu a ffrindiau.

Beth allwn ei wneud fel cymunedau

Dangosodd y llifogydd diweddar yn Ne Cymru bŵer cymunedau i gefnogi ei gilydd trwy gyfnodau anodd. Mae hyn yn un o’r amseroedd hynny, ac fel cymunedau rydyn ni’n gwybod pwy sy’n agored i niwed, a gallai fod angen cymorth. Ledled y wlad, mae grwpiau cefnogol yn ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol, i geisio cefnogi’r unigolion sydd angen help. Bellach, ceir clybiau llyfrau a ffilm rithwir, a boreau coffi rhithwir.

O dan y cyfyngiadau cyfredol, bydd nifer o grwpiau a gweithgareddau cymdeithasol yn gorfod cael eu hatal am y tro, ond efallai y bydd ffyrdd o gadw mewn cysylltiad ag aelodau’r grŵp yn enwedig os yw’r grwpiau’n cefnogi unigolion sy’n unig neu’n ynysig. Gall hyn fod trwy dechnoleg, neu mor syml â chodi’r ffôn i bobl. Os ydych chi’n gweithio o adref, beth am ddefnyddio technoleg i gysylltu â chydweithwyr i gymdeithasu, yn hytrach nag ond i gael ‘cyfarfod gwaith’? Mae hynny’n rhywbeth yr ydym ni, fel tîm yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol a’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, yn edrych arno. Rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd y gallwn gefnogi oedolion hŷn, a helpu i’w cadw’n gysylltiedig, gan gynnwys ffyrdd o gysylltu cartrefi gofal gan ddefnyddio technoleg, fel y gall preswylwyr gysylltu â’i gilydd a chael bore coffi neu ryw weithgaredd arall ar y cyd.

Ond mae’n bwysig hefyd i ni beidio anghofio’r rhai heb fynediad at dechnoleg. Mae’n cymryd dau funud i ofalu bod rhywun rydyn ni’n ei adnabod yn lleol yn iawn, neu i ofyn a oes angen unrhyw beth arnyn nhw. Does dim rhaid i ni agosáu yn gorfforol i wneud yn siŵr bod nhw’n iawn a chael sgwrs gyflym. Os ydym yn mynd i siopa, gallwn ddod i’r arfer o ofyn a oes angen unrhyw beth ar unrhyw un arall. Gallwn ddefnyddio’r ffôn i gael coffi rhithwir, siarad am lyfrau, ffilmiau neu’r llinell stori ddiweddaraf ar eich hoff opera sebon. Y pethau bach fydd yn ein cael trwy’r argyfwng presennol hwn – gwnewch y pethau bychain!

Mae pŵer y gweithredoedd caredigrwydd bach hyn yn fwy na’r hyn yr ydych yn ei feddwl. Dangosodd fy ymchwil y gall y gweithredoedd bach hyn o garedigrwydd wneud gwahaniaeth enfawr i berson unig. Canfu oedolion hŷn a oedd yn unig fod cael rhywun i ffonio neu gynigion o gefnogaeth a chymorth ymarferol, oll yn eu helpu i deimlo’n llai ar eu pennau eu hunain ac atal rhai pobl rhag i’r cyflwr o fod yn unig droi’n un cronig. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r unigolion hynny nad oes ganddynt unrhyw deulu efallai, neu’r rhai sydd wedi bod trwy brofedigaeth yn ddiweddar.

Yn bwysicaf oll, rhaid cofio, bydd y sefyllfa hon yn fyrhoedlog i’r mwyafrif o bobl. Unwaith y bydd yr argyfwng wedi mynd heibio, mae’n bwysig cofio y bydd bywyd wedi newid ac y bydd y gefnogaeth a’r caredigrwydd a gynigiwn nawr yr un mor bwysig bryd hynny.

Felly byddwch yn garedig, edrychwch ar ôl eich gilydd, ond hefyd gofalwch am eich iechyd corfforol a meddyliol eich hun ac arhoswch yn ddiogel.

Adnoddau

Os ydych chi dros 70 oed ac yn byw ar eich pen eich hun mae gan Age Cymru wasanaeth check in and chat. Cofrestrwch gyda hwy yn rhad ac am ddim ar 08000 223 444 neu e-bostiwch enquiries@agecymru.org.uk a derbyniwch alwad yn y Saesneg neu’r Gymraeg.

Yn wreiddiol cafodd y blog hwn ei gyhoeddi ar wefan y Ganolfan Heneiddio Arloesol - COVID-19 ac unigrwydd.

Dewch yn ôl i'n blog yn rheolaidd i ddysgu am ymchwil barhaus yn y sector gofal cymdeithasol a sut y gall y dystiolaeth gefnogi'ch ymarfer yng Nghymru.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ein blog ymchwil a thystiolaeth, cysylltwch â ni yn ymchwil@gofalcymdeithasol.cymru.