Rhyddid gwybodaeth
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth:
- yn caniatáu i chi weld gwybodaeth a gedwir gennym ni
- yn ei gwneud yn ofynnol i ni fod â chynllun cyhoeddi.
Mae'r cynllun cyhoeddi'n golygu bod yn rhaid i ni drefnu bod rhai mathau penodol o wybodaeth ar gael. Mae'n rhoi gwybod i chi pa wybodaeth sydd ar gael, ym mha fformat y mae ar gael ac a oes rhaid i chi dalu ffi i'w chael.
Sut i wneud cais rhyddid gwybodaeth
Os oes arnoch eisiau gwybodaeth nad yw ar y cynllun cyhoeddi, mae angen i chi:
- gyflwyno'r cais yn ysgrifenedig i'r cydgysylltydd rhyddid gwybodaeth
- dweud yn eglur pa wybodaeth y mae ei hangen arnoch.
Os oes arnoch angen cymorth ychwanegol cysylltwch â'r cydgysylltydd rhyddid gwybodaeth ar 029 2078 0636.
Y Cydgysylltydd Rhyddid Gwybodaeth
Gofal Cymdeithasol Cymru
Tŷ South Gate
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW
Diogelu data
Dan Ddeddf Diogelu Data 1998 mae gennych hawl gyffredinol i weld data personol a gedwir amdanoch. Caiff yr hawl hon ei hadnabod fel 'hawl gwrthrych i gael gwybodaeth'. Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd mae gennych hefyd yr hawl i gael gwybod a oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw amdanoch chi ac i gael copi o'r wybodaeth honno.
Y comisiynydd gwybodaeth
Ceir Comisiynydd Gwybodaeth sy'n sicrhau bod yr holl ddeddfau mewn perthynas â rhyddid gwybodaeth a diogelu data yn cael eu dilyn. Rydym ni wedi'n cofrestru gyda'r comisiynydd felly gellir gwirio ein gwaith ni.