Rydyn ni’n helpu gweithwyr gofal cymdeithasol i ddarparu gofal a chymorth da i'r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt.
Rydyn ni’n cofrestru gweithwyr i wneud yn siŵr eu bod yn addas i weithio ym maes gofal cymdeithasol, ac mae gennym ni godau ymarfer proffesiynol y mae’n rhaid iddynt eu dilyn.
Mae dau god ymarfer – un ar gyfer cyflogwyr ac un ar gyfer gweithwyr.
Mae'r codau yn set o reolau, neu safonau, i helpu i gadw pobl yn ddiogel. Rhaid i bawb sydd wedi cofrestru gyda ni ddilyn y cod.
Nid yw’r codau wedi’u newid ers 2017, felly rydyn ni am eu diweddaru.
Er mwyn ein helpu i wneud hyn, llynedd fe wnaethom ni siarad â channoedd o bobl ledled Cymru a holi eu barn am y codau.
Clywsom eu bod yn meddwl y dylai'r codau fod yn fyrrach, yn symlach ac yn gliriach.
Rydyn ni wedi gwrando ar yr hyn a glywsom, ac rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau i’r codau.
Os ydych chi’n weithiwr gofal cymdeithasol neu’n gyflogwr, ni fydd y codau newydd yn gofyn i chi newid y ffordd rydych chi’n gweithio.
Pwrpas y geiriad newydd yw ei gwneud hi'n symlach ac yn gliriach beth a ddisgwylir gennych chi.
Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich barn am ein newidiadau.
Gallwch roi gwybod i ni drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar ein gwefan yn gofalcymdeithasol.cymru/ymgynghoriadau
Ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn ni’n diweddaru’r codau ymarfer ac yn cyhoeddi’r fersiynau newydd ar ein gwefan.
Byddwn ni hefyd yn rhoi gwybod ichi pryd y bydd y codau newydd yn dod i rym.