Jump to content
Dementia a Covid-19

Dyma rai dolenni ac adnoddau defnyddiol i gefnogi pobl â dementia yn ystod Covid-19. Gall hyn gynnwys yr holl staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio ym mhob sector. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i deuluoedd a phartneriaid gofal. Byddwn yn parhau i ychwanegu dolenni ac adnoddau, felly dewch yn ôl yn rheolaidd.

Cyflwyniad i ddementia

Os ydych chi'n newydd i weithio gyda phobl â dementia neu'n teimlo eich bod chi'n llai profiadol, efallai yr hoffech chi ddechrau gyda'n canllaw cyflym gofal a chefnogaeth ar gyfer pobl a dementia - Covid-19.

Mae'r canllaw cyflym hefyd ar gael ar ffurf fideo.

Mae hyn wedi'i anelu at y bobl hynny sy'n newydd i ofal neu sydd wedi'u hadleoli o feysydd eraill i ddarparu egwyddorion hanfodol ar gyfer gofalu am bobl sy'n byw gyda dementia. Gellir ei ddefnyddio fel rhan o raglen sefydlu neu i bobl ddarllen yn eu hamser eu hunain.

Os oes gennych chi awgrym am rywbeth rydych chi eisiau awgrymiadau arno, Cysylltwch a ni.

Gwyliwch y fideo fer hon i ddysgu am ddementia a dod yn Ffrind Dementia ar-lein.

Gellir dod o hyd i gyngor diweddaraf ar coronafirws newydd (Covid-19) ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys y cyngor diweddaraf i ofalwyr.

Os oes angen cefnogaeth arnoch ar unwaith, ewch i cefnogaeth a llinellau cymorth.

Deall dementia a Covid-19

Rydyn ni'n gwybod rhai o'r ffyrdd mae Covid-19 yn effeithio ar bobl â dementia o wledydd eraill.

Dyma grynodeb byr o'r pwyntiau allweddol:

  • Er nad oes tystiolaeth bod Covid-19 yn cyflymu dementia, gall achosi hypocsia (llai o ocsigen yn y gwaed) a deliriwm.
  • Mae'n bwysig parhau i reoli dementia unigolyn, felly efallai y bydd angen mwy o gefnogaeth arnynt ar yr adeg hon, er enghraifft wrth reoli meddyginiaeth a threfn. Defnyddiwch awgrymiadau, fel galwadau ffôn neu dechnoleg i osod nodiadau atgoffa.
  • Gall symptomau dementia waethygu oherwydd arferion newidiol a phryder cynyddol. Cefnogwch arferion, datblygu lleoedd tawel, a chefnogwch lles emosiynol gofalwyr.
  • Gall newidiadau yn yr amgylchedd, megid mynd i mewn i'r ysbyty, hefyd gynyddu symptomau dementia oherwydd gall y person â dementia fynd yn ddryslyd. Gall amgylcheddau ysbytai fod yn swnllyd, gyda goleuadau llachar. Gall staff sy'n defnyddio offer PPE hefyd fod yn frawychus a chynyddu pryder a gofid.
  • Efallai y bydd pobl â dementia neu nam gwybyddol ysgafn yn ei chael hi'n anodd cofio a deall am Covid-19. Efallai y byddan nhw'n ei chael hi'n anodd cofio golchi eu dwylo'n rheolaidd a pheidio â chyffwrdd â'u gwyneb. Efallai y byddant yn anghofio y gofynnwyd iddynt aros gartref neu yn eu hystafelloedd mewn cartref gofal ac efallai nad ydynt yn deall yr angen i gynnal pellter cymdeithasol. Efallai y bydd angen defnyddio cymhorthion côf.
  • Mae pryder, straen, unigrwydd a blinder teulu a gofalwr proffesiynol hefyd yn debygol o gynyddu; gellir rhoi iechyd a lles gweithwyr cymorth a theuluoedd dan straen.

Gellir gweld crynodeb byr, estynedig yma o Covid-19 a Dementia: gwersi o China.

Dyma ganllaw gan Gymdeithas Alzheimers ar yr hyn y mae canllawiau cysgodi a phellter cymdeithasol yn ei olygu i bobl â dementia.

Mae pobl â Dementia Corff Lewy yn agored iawn i gael eu heintio ac mae'n bwysig iawn lleihau eu risg o ddod i gysylltiad â Covid-19. Cyngor i bobl sy'n byw gyda Lewy Body Dementia a'u teulu a'u gofalwyr yn ystod Covid-19.

Ymchwil

Os ydych chi'n edrych am unrhyw ymchwil sydd wedi'i gyhoeddi neu sy'n digwydd ar hyn o bryd mewn perthynas â Covid-19 a dementia, edrychwch yma.

Mae GYHD (Y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia) wedi cyhoeddi adolygiad o'r ymchwil gyhoeddedig o effaith Covid-19 ar bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Mae'n dangos bod y pandemig wedi effeithio ar bobl yn gorfforol, yn wybyddol ac wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Roedd lefelau uchel o straen a blinder i'w weld yn y gofalwyr. Gallwch ddod o hyd i grynodeb yma.

Deall ein gilydd

Mae'r adran hon yn eich helpu i feddwl am addasu sut rydych yn cyfathrebu ar gyfer person â dementia.

Mae cyfathrebu’n golygu mwy na siarad. Rydyn ni'n cyfathrebu â'n gilydd trwy iaith ein corff, ein mynegiant gwyneb, y synau a'r symudiadau rydyn ni'n eu gwneud. Mae'n bwysig dysgu ffyrdd o gyfathrebu sydd yn gweithio i'r unigolyn â dementia, nid y rhai sy'n gweithio i ni.

Dyma’r ffyrdd rydyn ni’n cyfathrebu.

Dyma ychydig o gyngor ar gyfathrebu'n dda â phobl â dementia.

Gweithio gydag offer amddiffynol personol (PPE)

Rydym yn gwybod y bydd rhwystrau ychwanegol i gyfathrebu yn ystod yr amser hwn. Bydd angen offer ar staff i'w hamddiffyn, ond gall hyn achosi dryswch a thristwch i rhai phobl. Dyma rhai adnoddau i'ch helpu chi i ddelio gyda rhai o'r rhwystrau hynny.

Arweiniad ac ystyriaethau ynghylch cyfarpar diogelu personol wrth gynorthwyo pobl sy’n byw â dementia #CovidCareWales.

Dyma fideo defnyddiol gydag awgrymiadau ar sut i esbonio gwisgo menig.

Diwylliant ac iaith

Mae'n bwysig cydnabod iaith a diwylliant yr unigolyn pan yn dysgu am bwy ydyn nhw.

Yr iaith Gymraeg

Mae angen cefnogi siaradwyr Cymraeg sy'n byw gyda dementia i siarad eu hiaith gyntaf. Efallai y bydd rhai yn ei chael hi'n anodd cofio geiriau Saesneg. Os nad ydych chi'n siaradwr Cymraeg, fe allech chi roi cynnig ar y syniadau canlynol:

  • darganfyddwch a oes siaradwyr Cymraeg a allai siarad â'r person gyda chi
  • dysgu rhai pethau sylfaenol, fel syt i ddweud enw’r person
  • defnyddiwch fwy o ymadroddion wyneb ac iaith gorfforol.

Dyma rai adnoddau defnyddiol i'ch helpu chi i gyfathrebu yn Gymraeg. Mae gan yr adnodd hwn y gallu i gynhyrchu ac ymateb i leferydd dynol (testun i siarad/leferydd a adnabod llais) a gallwch fynd yma a chlywed sut i ynganu ymadroddion fel ‘sut y gallaf helpu’ a ‘ble mae’r boen’.

Mae'r Ap Gofalu Trwy’r Gymraeg yn arbennig o ddefnyddiol i gefnogi gweithwyr sydd ag ychydig neu ddim sgiliau Cymraeg

Gweithio gyda phobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig

Mae taflenni defnyddiol ar ddementia mewn nifer o ieithoedd ar gael. Mae'n bwysig rhannu taflenni gwybodaeth â gofalwyr neu aelodau o'r teulu hefyd.

Mae yna adnoddau defnyddiol iawn ar wefan Gynghrair Dementia ar gyfer Diwylliant ac Ethnigrwydd. Gallwch ddod o hyd i adnoddau penodol Covid-19 hefyd.

Mae hefyd adnoddau ar ddarparu gofal ysbrydol i wahanol gredoau ar ddiwedd oes ar gael.

Deall pam fod rhywun yn drist

Mae'r adran hon yn eich helpu i feddwl am drallod a sut y gall effeithio ar berson â dementia.

Pan rydyn ni’n drist, yn anghyfforddus neu mewn poen mae'n effeithio ar ein hymddygiad. Efallai na fydd bob amser yn bosibl i berson gyda dementia egluro beth sy'n eu cynhyrfu neu'n eu brifo - ein gwaith ni yw ceisio darganfod.

Efallai y byddwch chi'n sylwi fod rhywun yn dechrau ymddwyn yn wahanol a ddim yn gwybod pham. Dyma rai o'r newidiadau y byddwch chi'n eu gweld a'r hyn y gallen nhw ei olygu.

Dyma rhai awgrymiadau ar sut i ddelio gyda sefyllfa efo empathi a dealltwriaeth.

Efallai fydd pobl yn gofyn cwestiynau sy'n anodd gwybod sut i ateb. Dyma rhai awgrymiadau ar pam y gall rhywun ofyn y cwestiynau hynny a sut y gallwch ymateb.

Mae'r rhestrau gwirio hyn wedi'u datblygu i helpu chi feddwl am brofiadau rhywun sy'n byw â dementia a pham y gallent dangos ymddygiadau sydd allan o gymeriad neu’n anarferol. Byddant yn cefnogi chi i feddwl am ystyr (cyfathrebu) yr ymddygiad ac yn galluogi chi i archwilio sut y gallwn gefnogi a chwrdd â’u hanghenion.

Ar ôl i chi arsylwi ac archwilio'r ymddygiad / sefyllfa, edrychwch a'r yr adran berthnasol ar y tudalennau hyn i gael awgrymiadau a chyngor. Rhestr wirio ar gyfer cartrefi gofal a rhestr wirio eu cartref eu hunain.

Mae Bocs Hapusrwydd (Happy Box) hefyd yn ffordd dda o leddfu tristwch. Dyma gyngor ar sut i greu un Bocs Hapusrwydd.

Efallai fod rheswm arall pam fod rhywun yn ymddwyn yn wahanol, a allai fod oherwydd deliriwm? Os yw person yn sâl ac mae ei ymddygiad wedi newid, ystyriwch deliriwm. Gweler canllawiau don't discount delirium a canllaw cyflym gofal cymdeithasol NICE ar adnabod ac atal deliriwm.

Gweithgareddau a’r drefn arferol

Mae trefn arferol yn bwysig. Mae'n bwysig ceisio cynnal amgylchedd thawel a threfn dda i leihau chynhyrfu a thrallod a helpu’r person i gadw ei annibyniaeth.

Cwsg

Mae cynnal patrwm cwsg iach yn bwysig iawn i bobl â dementia.Dyma rhywfaint o gyngor ar sut i gynnal y cylchred cysgu-deffro.

Bydd trefn ddyddiol yn ei gwneud yn haws aros gartref. Gall helpu'r unigolyn i wybod beth i ddisgwyl ar ddiwrnod penodol a theimlo'n llai pryderus, yn enwedig os yw popeth yn y newyddion yn ei poeni. Mae’r Cymdeithas Alzheimer’s wedi rhoi’r cyngor hwn ar gynnal trefn arferol:

  • Rhowch amserlen reolaidd ar waith - efallai y bydd hi'n haws ac yn fwy calonogol i chi wneud pethau ar yr un pryd bob dydd neu wythnos. Os byddwch chi'n teimlo'n well ar rai adegau o'r dydd, ceisiwch drefnu gweithgareddau ar gyfer yr amseroedd hynny.
  • Cadwch pethau'n syml - symleiddiwch eich tasgau arferol neu dyddiol i'w wneud yn haws eu rheoli.
  • Efallai na fydd yn bosibl dilyn trefn arferol yr unigolyn, er enghraifft, os yw hyn fel arfer yn cynnwys sawl taith gerdded ddyddiol. Ceisiwch edrych ar ddewisiadau
  • Cymerwch pethau un cam ar y tro - ceisiwch ganolbwyntio ar un peth ar y tro a thorri pob thasg yn gamau llai.

Awgrymiadau ar gyfer cychwyn gweithgareddau newydd

  • Parotwoch y pethau sydd eu hangen arnoch chi cyn dechrau’r gweithgaredd, er enghraifft, offer ar gyfer garddio neu gynhwysion ar gyfer coginio. Efallai yr hoffai'r unigolyn gyda dementia eich helpu gyda hyn.
  • Lleihau gwrthdyniadau fel sain cefndir.
  • Rhowch amser i'ch hun a chymerwch pethau ar gyflymder arafach os oes angen. Hefyd, byddwch yn galonogol os yw'r person yn cael pethau'n anodd.

Cerddoriaeth

Gall cerddoriaeth dod â phobl at ei gilydd, symbylu'r ymennydd a lleihau teim-ladau o gynnwrf. Rydym wedi dod o hyd i gwpl o adnoddau ymarferol gyda syni-adau o sut gallwch chi ddod â cherddoriaeth i fywydau pobl sy'n byw gyda dementia.

Mae gan BBC Music Memories lawer o gerddoriaeth. Gallwch chwilio o ran math ac ‘atgofion radio’ gyda sioeau radio wedi’u harchifo.

Mae gan Playlist for life mwy o wybodaeth ac awgrymiadau penodol ar sut i greu rhestrau chwarae cerddoriaeth y gall pawb eu mwynhau.

Yma ceir restr chwarae o ganeuon Cymraeg neu ymuwch â'r Grŵp CÔR-ONA! ar Facebook.

Hel atgofion

Mae'r ap My house of memories yn caniatáu i chi archwilio gwrthrychau o'r gorffennol a rhannu atgofion.

Mae ‘Book of You’ yn cynnig cyfrifon a chyngor am ddim ar weithgareddau hel atgofion y gallwch eu gwneud yn tra’n ynysu, yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Canllawiau gweithgaredd

Mae gan Health Innovation Network catalog o weithgareddau defnyddiol.

Mae syniadau ar gael y gall cartrefi gofal rhoi cynnig arnynt wrth gadw at ganllawiau pellhau cymdeithasol.

Cadw'n heini ac yn iach

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi helpu pobl i gadw'n heini ac yn iach wrth hunan-ynysu neu bellhau cymdeithasol.

Bwyd a diod

Gweler ychydig o gyngor ar fwyta ac yfed i bobl sydd â Covid-19 a dementia.

Cefnogwch bobl i fwyta deiet iach, dilynwch y cyngor ar y daflen ffeithiau bwyta'n iach.

Sicrhewch fod rhywun yn cadw'n hydradol ac yn yfed digon o ddŵr. Weithiau bydd pobl yn anghofio yfed digon, felly dyma ychydig o gyngor ar gadw'n hydradol.

Mae'r risg o ddiffyg maeth yn cynyddu wrth i ddementia fynd yn ei flaen. Dyma awgrymiadau ar sut i adnabod yr arwyddion.

Ymarfer Corff

Gall ymarfer corff ysgafn, rheolaidd, ein cadw ni'n iach a helpu i leihau'r risg o ddisgyn i phobl hŷn. Sicrhewch fod y person yn ymarfer corff yn ddiogel.

Dyma rhai awgrymiadau ymarfer corff tra bod cyfyngiadau symud mewn lle.

Mae yna rhai awgrymiadau syml i atal gwastraffu cyhyrau ar y poster Traed Iach Os na all pobl gael mynediad at wasanaethau podiatreg, anogwch bobl i gadw eu traed yn iach ac atal unrhyw broblemau corfforol rhag datblygu. Rhowch gynnig ar y daflen 5 cam hon.

Cefnogi dymuniadau pobl

Galluedd meddyliol

Mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu ar hyn o bryd i gefnogi dymuniadau pobl lle y gallwn. Efallai y bydd dewisiadau cyfyngedig ar hyn o bryd, ond nid yw p'un a oes gan berson y gallu i wneud penderfyniad yn newid. Rydym yn dal i weithio yn ôl yr un egwyddorion.

Os ydych chi'n newydd i weithio gyda phobl â dementia, mae angen i chi ddeall galluedd. Dyma bum egwyddor y Ddeddf Galluedd Meddwl. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch galluedd, siaradwch â rheolwr.

Mae cyngor ar gael i'r rhai sy'n gyfrifol am gynnal asesiadau galluedd.

Cynllunio ar gyfer argyfwng

Mae posibilrwydd y gallai aelodau’r teulu fynd yn sâl ac yn methu â gofalu am berson sy’n byw gyda dementia, felly mae’n bwysig cynllunio ar gyfer hyn.

Gallwch ofyn i aelodau'r teulu lenwi'r daflen fer hon gan Fforwm Partneriaeth Gofal Dementia sy'n egluro beth sydd angen digwydd os ydyn nhw'n mynd yn sâl. Os ydych chi'n weithiwr, cadwch gopi i chi'ch hun a rhowch gopi arall yn rhywle clir, fel ar oergell. Trwy hynny, mae unrhyw un sy'n ymwneud ag unrhyw ofal brys yn glir ynghylch y pethau allweddol y mae angen iddynt eu gwybod am berson. Nid yw hyn yn disodli cynllun gofal na chynllun gofal ymlaen llaw, mae ar gyfer rhannu gwybodaeth hanfodol rhag ofn y bydd argyfwng.

Peidiwch ag anghofio gofyn a yw rhywun wedi cwblhau taflen This is Me.

Protocol Herbert

Efallai yr hoffech atgoffa teuluoedd am Brotocol Herbert. Mae hwn wedi'i gynllunio i gefnogi teuluoedd rhag ofn i'r person y maen nhw'n gofalu amdano fynd ar goll.

Gofal diwedd oes

Efallai y bydd angen i ni gael rhai sgyrsiau anodd a gofidus gyda phobl. Os yw person yn anffodus agosáu at ddiwedd eu hoes, mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi eu dymuniadau. Efallai bod rhai pobl eisoes wedi nodi eu dymuniadau mewn Cynllun Gofal Ymlaen Llaw neu wedi rhoi Pwer Atwrnai Parhaol ar waith. Mae gennym gyngor ac adnoddau i helpu ymarferwyr - Cefnogi gofal diwedd oes mewn lleoliadau gofal cymdeithasol yn ystod Covid-19.

Nid oes rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun. Gofynnwch i gydweithwyr ac arbenigwyr am help. Cofiwch edrych ar ôl eich hun hefyd. Ewch in tudalen Cefnogi eich iechyd a llesiant.

Adsefydlu ac adfer

Dyma gyngor i'r rhai sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia ar ôl i gyfyngiadau cloi i lawr codi. Mae yna hefyd gyngor gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia ar ôl dal Covid-19.

Cefnogaeth Covid hir

Mae symptomau Covid-19 i'r mwyafrif o bobl yn datrys o fewn 4 wythnos. Os yw'r symptomau'n para neu'n ymddangos ar ôl 4 wythnos fe'i gelwir yn Covid hir. Os ydych chi'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia sydd â Covid hir, mae yna gyngor ar adferiad ac adsefydlu yma. Mae yna gyngor ar:

  • sut i adnabod rhywun a allai fod â Covid hir
  • sut i gael diagnosis
  • help a chyngor ar reoli symptomau fel diffyg anadl
  • cadw pobl mor annibynnol â phosib.

Mynd o gwmpas ar ôl cloi i lawr neu gysgodi

Mae mynd yn ôl allan ac wedi bod yn anodd i rai pobl, yn enwedig os nad ydych chi'n gwybod beth i'w ddisgwyl.

Mae Get there together yn gyfres o ffilmiau a ddatblygwyd yn lleol sy'n dangos i chi yn union sut mae bywyd y tu hwnt i'ch drws yn edrych nawr. Nod y ffilmiau hyn yw lleihau pryderon a rhoi sicrwydd i unrhyw un sy'n bryderus am yr hyn sydd y tu hwnt i'r drws ffrynt, fel sut beth mae fel yn y llyfrgell, yn ogystal ag ymdrin â phwysau Covid-19 megis pryd a ble i wisgo mwgwd. Gallwch chwilio am fideos ar gyfer eich ardal leol.

Pecyn cymorth yw Back to community life i'w weithredu i'ch helpu chi fel cynllun cymunedol sut i addasu'ch ardal leol i helpu pobl i fynd yn ôl i fywyd cymunedol. Mae'n ystyried y camau y gallai fod angen i bobl eu cymryd i adael eu cartrefi i ailgysylltu â'r gymuned ynghyd â'r wybodaeth a'r gefnogaeth gymunedol sydd ar gael i gynorthwyo i gymryd y camau hyn. Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys canllaw hunangymorth ymarferol gydag awgrymiadau i alluogi pobl i gymryd camau y gellir eu lleoli i anghenion pob cymuned gan gysylltu â gwirfoddolwyr lleol a chysylltwyr cymunedol, lleoedd cyfeillgar i adferiad yn y gymuned a mentrau mae busnesau cymunedol lleol, siopau a gwasanaethau wedi'u cymryd i gefnogi pobl i fynd yn ôl i fywyd cymunedol; manyleb swydd gwirfoddolwr adferiad cyfeillgar , llythyr templed i fusnes a siopau, taflenni posteri a chanllaw sut i arwain a sefydlu'r fenter. Mae'r pecyn cymorth ar gael yma.

Brechu Covid-19

Mae ychydig o gyngor ar frechu Covid-19 i bobl sy'n byw gyda dementia yma.

Ailadeiladu perthnasoedd

Rydym yn gwybod y gallai'r pandemig a'r cloi lawr fod wedi cael effaith sylweddol ar berthnasoedd â phobl sy'n byw gyda dementia. Efallai eich bod chi'n aelod o'r teulu neu'n weithiwr cartref gofal, sydd angen rhywfaint o gyngor ar ailadeiladu cysylltiadau a pherthnasoedd gyda'r bobl rydych chi'n gofalu amdanyn nhw neu'r teuluoedd rydych chi'n eu cefnogi. Mae'r pecyn cymorth hwn yn cynnig cefnogaeth ymarferol.

Cefnogaeth, llinellau cymorth a gweminariau

Dyma rai cwestiynau cyffredin a rhifau llinell gymorth genedlaethol sy'n rhoi help a chyngor pellach.

Os oes gennych gwestiwn a awgrymir gallwn ei ychwanegu at y dudalen hon, Cysylltwch â ni.

Beth ddylwn i ei wneud os oes angen help y tu allan i oriau ar rywun rydw i'n ei gefnogi?

Dewch o hyd i enw a rhif eich tîm dyletswydd brys lleol (EDT). Bydd hyn ar wefan yr awdurdod lleol, edrychwch am y tîm dyletswydd brys neu'r tîm y tu allan i oriau. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Beth os oes angen help ar rywun i siopa?

Siaradwch â'ch awdurdod lleol neu'ch Cyngor Gwirfoddol Cymunedol (CVC) lleol i weld pa gymorth sydd ar gael yn eich ardal chi.

Dyma ganllaw defnyddiol i unrhyw un sy'n gwirfoddoli gyda rhywun sy'n byw gyda dementia.

Llinellau cymorth

Llinell gymorth Dementia UK 0800 888 6678 - bydd Nyrs Admiral arbenigol yn ateb eich galwad.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yng nghyngor coronafirws Dementia UK.

Llinell gymorth Alzheimer’s Society Dementia Connect 0333 150 3456 neu linell gymorth Cymraeg ar 03300 947 400 - mae cynghorwyr dementia yn cynnig cefnogaeth a chyngor, gan gynnwys cyngor ar coronafirws, a gallant gysylltu pobl â'r help y gallai fod ei angen arnynt. Mae cefnogaeth ffôn ar gael saith diwrnod yr wythnos.

Mae mwy o gyngor ar gael yn alzheimers coronavirus (Covid-19).

Mae Age Cymru yn darparu cefnogaeth ffôn a chyngor i'r rheini dros 70 oed sy'n byw yng Nghymru, gallwch ddarganfod mwy am Friendship Line arlien neu trwy ffonio 0300 303 44 98.

Mae Prosiect Eiriolaeth Dementia Age Cymru yn wasanaeth a arweinir gan y person, sy’n rhoi’r hawl sylfaenol i bobl â dementia gael eu llais yn rhai o feysydd pwysicaf eu bywyd, gan sicrhau bod eu hawliau, eu dymuniadau a’u dewisiadau personol bob amser yn cael eu parchu.

Mae Silver Line yn llinell gymorth gyfrinachol am ddim sy'n darparu gwybodaeth, cyfeillgarwch a chyngor i bobl hŷn, ar agor 24 awr y dydd, bob diwrnod o'r flwyddyn. Gallwch eu ffonio ar 0800 4 70 80 90

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Ageuk.

Mae Care and Repair a'i phartneriaid yn darparu'r gwasanaeth Rheoli Gwell - ar gael i unrhyw un dros 50 oed â dementia, a chyflyrau pellach, yn enwedig colled synhwyraidd. Mae hyn yn cynnwys cyngor a chefnogaeth ar ystod o bethau i'ch helpu chi i reoli gartref, gan gynnwys addasiadau, atgyweiriadau brys, cyngor a chefnogaeth ar gyfer atal cwympiadau, diogelwch cartref a chartrefi cynnes. Ffoniwch 0300 111 3333 neu ewch i wefan Care and Repair.

Mae Llinell Gymorth Dementia Cymru yn cynnig cefnogaeth emosiynol i unrhyw un, o unrhyw oedran, sy'n gofalu am rywun â Dementia yn ogystal ag aelodau eraill o'r teulu neu ffrindiau.

Bydd y gwasanaeth hefyd yn helpu ac yn cefnogi'r rhai sydd wedi cael diagnosis o Ddementia.

Gweminarau

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth trwy gweminarau a digwyddiadau cymdeithasol “ar lein”. Mae gan y 3NDWG gyfres o weminarau ar-lein am ddementia a chyffyrddiad cofid19, dan arweiniad pobl sy'n byw gyda dementia.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cyhoeddwyd gyntaf: 21 Ebrill 2020
Diweddariad olaf: 6 Mawrth 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (91.8 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch