Jump to content
Cyfathrebu’n effeithiol â phobl â dementia

I gyfathrebu, mae’n rhaid i ni wneud pethau penodol mewn trefn benodol. Mae’n rhaid i ni benderfynu beth rydym ni am ei ddweud a pha ddull cyfathrebu fyddai fwyaf effeithiol. Yna, rydym yn anfon y neges i rywun arall. Mae'n rhaid iddyn nhw ddehongli’r neges, penderfynu ar eu hymateb, yna ateb neu ymateb.

Pan mae cyfathrebu’n methu

Gall y broses gyfathrebu fethu ar unrhyw adeg.

Efallai bod llawer o sŵn yn y cefndir a’i bod yn anodd clywed, efallai ein bod wedi blino neu ein bod yn defnyddio’r dull cyfathrebu anghywir.

Gall methu cyfathrebu arwain at deimladau o rwystredigaeth mewn unigolyn sy’n byw gyda dementia, a allai effeithio ar y ffordd y maen’ ymddwyn.

Meddyliwch sut rydych chi’n teimlo pan na allwch gael pobl i’ch deall neu os nad ydych chi’n gallu deall yr hyn mae rhywun yn ei ofyn i chi, ar wyliau tramor o bosibl.

Adnabod newid mewn cyfathrebu

Bydd sgiliau cyfathrebu yn newid gydag amser. Efallai na fydd newidiadau yn rhai amlwg i ddechrau:

  • cymryd ychydig bach mwy o amser i ddod o hyd i’r gair cywir neu ddisgrifio eitemau yn lle hynny
  • colli cyfeiriad brawddeg yn ei chanol
  • anawsterau’n deall yr hyn sy’n cael ei ddweud neu ddilyn brawddegau cymhleth.

Wrth i’r dementia ddatblygu, bydd pobl yn dibynnu mwy a mwy ar gyfathrebu di-eiriau'r person arall a sut mae pethau’n cael eu dweud, tôn y llais.

Cyfathrebu effeithiol

Mae’n bwysig ein bod yn adnabod y newidiadau hyn ac yn addasu’r hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod cyfathrebu mor effeithiol â phosibl.

Lleihau pethau sy’n tarfu

  • Diffodd y teledu neu symud i fan distawach
  • Cael sylw’r person
  • A yw’n well gan y person gael ei galw’n Mrs Jones? Elizabeth? Liz? Betty?
  • Defnyddiwch enw’r person ar ddechrau’r frawddeg i gymell y person i ymuno â’r sgwrs

Meddyliwch am safle’ch corff? Ydyn nhw’n gallu’ch gweld?

  • Ewch i lawr i lefel y person, ac edrychwch i’w llygaid. Bydd y maes gweledol yn lleihau wrth i’r dementia ddatblygu. Felly ewch at y person ar ei ochr orau bob tro. Efallai y bydd angen i chi fynd yn eithaf agos cyn i gysylltiad gael ei wneud

Siaradwch yn glir a phwyllog

  • Symleiddiwch eich brawddegau heb siarad fel eich bod yn siarad gyda phlentyn
  • Defnyddiwch eiriau mae’r person yn eu defnyddio. Felly, os ydyn nhw’n galw’r toiled yn “lle chwech”, gwnewch chi hynny hefyd
  • Ceisiwch osgoi uno dwy frawddeg drwy ddefnyddio ‘a’, ‘neu’, ‘ond’. Dechreuwch frawddeg newydd.

Meddyliwch am dôn eich llais

  • Peidiwch â siarad fel pe baech yn siarad gyda phlentyn
  • Bydd tôn eich llais yn newid os ydych chi ar frys, yn flin, neu wedi diflasu
  • Cofiwch nad yr hyn rydych chi’n ei ddweud sy’n bwysig bob tro, ond sut y byddwch chi’n ei ddweud.

Ceisiwch osgoi gormod o gwestiynau

  • Meddyliwch am gwestiynau ie / na
  • Er ei bod yn bwysig rhoi dewisiadau i bobl, bydd gormod o gwestiynau’n peri dryswch weithiau.
  • Os ydych chi’n darllen rhestr o ddewisiadau amser bwyd, bydd pobl yn ‘dewis’ yr olaf ar y rhestr yn aml, gan mai dyna’r unig un y maent yn ei gofio
  • Gallai fod yn well gofyn yn syml “fyddech chi’n hoffi pysgod?” sy’n gofyn am ateb ie neu na neu hyd yn oed yn well, dangoswch yr opsiynau iddyn nhw.

Cyfathrebwch heb eiriau

  • Ewch dros ben llestri gyda’r ystumiau. Er enghraifft, dangoswch i berson sut i frwsio ei ddannedd drwy wneud y symudiadau yn hytrach nag egluro sut mae gwneud
  • Defnyddiwch luniau i helpu i wneud penderfyniadau
  • Ystyriwch ei ysgrifennu ar bapur. Bydd rhai pobl yn gallu darllen, tra na fydd eraill
  • Defnyddiwch gyffyrddiadau i bwysleisio’ch geiriau.

Astudiaeth achos am gyfathrebu'n effeithio gyda phobl gyda dementia

Adnoddau defnyddiol

Dolenni ymchwil

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.

Cyhoeddwyd gyntaf: 10 Hydref 2018
Diweddariad olaf: 25 Medi 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (49.6 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch