Jump to content
Annog pobl i barhau â’u hobïau

Mae pawb yn wahanol, a gall yr hyn sy’n hobi i un person fod yn ddiflastod llwyr i rywun arall! Er enghraifft, gall rhywun fod wrth ei fodd yn treulio oriau yn twtio yn yr ardd, ond gall hynny fod yn hunllef llwyr i berson arall. Gall un person fod wrth ei fodd yn coginio ac yn cael boddhad mawr o hynny; i rywun arall, mae’n dasg y mae’n rhaid ei gwneud. Y gwahaniaethau rhyngon ni sy’n ein gwneud ni’n arbennig.

Pam mae hobïau mor bwysig?

Yn aml, mae modd adnabod pobl trwy eu hobïau, er enghraifft, fel 'pêl-droediwr', 'gwëwr brwd' neu 'ffanatig croeseiriau'.

Mae’n rhan allweddol o bwy ydyn nhw fel pobl, mae angen i ni fod yn egnïol ac ymddiddori mewn pethau i fyw’n dda.

Mae gwneud ein hoff bethau yn gallu bod o fudd i’n hiechyd a’n llesiant a’n helpu ni i fod yn fwy effro yn feddyliol.

Mae hobïau sy’n cynnwys pobl eraill yn gallu ein cadw ni’n weithgar yn gymdeithasol a’n cadw ni mewn cysylltiad â’r rhai o’n cwmpas, gan sgwrsio, chwerthin ac atal unigrwydd.

Mae digon o dystiolaeth i gefnogi’r syniad bod pobl yn gallu colli eu sgiliau trwy ddiffyg ymarfer.

Felly, dylid annog a helpu pobl â dementia i barhau i fwynhau eu hobïau a’u diddordebau.

Symleiddio hobïau ar gyfer pobl gyda dementia

Weithiau, bydd angen gwneud newidiadau syml i alluogi’r person i barhau i lwyddo.

Y gamp yw dod o hyd i rywbeth nad yw’n rhy anodd fel na all y person ei wneud a’i fod yn mynd yn rhwystredig, ac nad yw’n rhy hawdd fel y bydd yn teimlo’n ddiwerth.

I wëwr brwd, efallai y bydd ei dementia’n golygu na all hi ddilyn ei hoff batrymau gwau cymhleth.

Nid yw hyn yn golygu na fydd hi’n gallu gwau byth eto. Efallai y gallai hi ddilyn patrwm symlach neu wau sgwariau neu sgarffiau heb batrwm.

Os yw hyn yn anodd, efallai y byddai hi’n mwynhau dadwneud gwau, weindio gwlân neu ddidoli hen batrymau. Fel hyn, gall hi fwynhau ei hobi trwy ddefnyddio’r cryfderau a’r medrau sydd ganddi o hyd.

Efallai yr hoffai’r pêl-droediwr ymuno â thîm i bobl hŷn neu fwynhau ‘pêl-droed cerdded’, sy’n cael ei chwarae’n arafach ond sy’n dal i fod yn weithgarwch cymdeithasol.

Efallai y byddai’n mwynhau mynd i weld gêm leol neu wylio’r gêm fawr ar y teledu.

Gall y ffanatig croeseiriau ddewis her symlach, neu gall gwneud y pos yn fwy o faint trwy ei lungopïo helpu os yw golwg yn broblem.

Trwy 'raddio' gweithgareddau, gall pobl barhau i fwynhau eu hoff hobïau.

Weithiau, bydd pobl yn rhoi’r gorau i wneud eu hoff hobïau oherwydd risgiau tybiedig.

Er enghraifft, efallai y bydd person sydd wastad wedi mwynhau pobi yn rhoi’r gorau i wneud hynny rhag ofn y bydd yn gwneud niwed i’w hun ar y popty poeth.

Mae cymryd risgiau cadarnhaol yn cydnabod a lleihau’r risgiau posibl, heb eu dileu nhw’n llwyr.

Mae mwy o wybodaeth am gymryd risgiau cadarnhaol yn yr adran 'Helpu pobl â dementia i gymryd rhan yn y gymuned'.

Adnoddau defnyddiol

Dysgwch fwy am bwysigrwydd annog pobl i barhau â'u hobïau.

Cân y Gân - rhestr chwarae a chryno ddisg o gerddoriaeth Gymraeg ar gyfer cartrefi gofal a phobl sy'n rhoi gofal i siaradwyr Cymraeg ond heb wybod pa ganeuon i'w chwarae. Gallwch lawrlwytho'r casgliad o'r ddolen uchod.

Playlist for Life – cerddoriaeth bersonol ar gyfer dementia (gwefan sy’n caniatáu i chi greu rhestri chwarae fesul degawd, pori drwy restri chwarae pobl eraill a llawer mwy) (Saesneg yn unig).

Pum gweithgarwch creadigol i helpu pobl sy’n byw gyda dementia (Saesneg yn unig)

Defnyddio celf a cherddoriaeth yn y cartref (Saesneg yn unig)

Dolenni ymchwil

Eisiau eich adborth

Helpwch ni i wella'r Adnodd dementia ar gyfer gweithwyr gofal proffesiynol drwy gael dweud eich dweud amdano yn ein harolwg byr pedair cwestiwn.

Cyhoeddwyd gyntaf: 10 Hydref 2018
Diweddariad olaf: 9 Tachwedd 2022
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (37.6 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch